Darpar Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion

Cei Newydd – y Gorllewin Gwyllt!
Ymunwch â ni ar gyfres o deithiau cerdded a digwyddiadau o Fan Cychod Bae Ceredigion yn harbwr Cei Newydd yn ystod mis Mai a mis Mehefin.

Crwydro i weld Adar y Glannau. Ymunwch â’n warden ar daith gerdded fer ar hyd llwybr yr arfordir i weld adar y glannau’n nythu ar Graig yr Adar, gan weld blodau a bywyd gwyllt arall yr arfordir ar hyd y daith. Bob dydd Sul am 10am.

Saffari Glan y Môr. Dewch i Draeth y Dolau i archwilio’r pyllau a min y traeth pan fydd y llanw ar drai, gan ddatgelu byd cudd. Gwisgwch esgidiau â gafael da a byddwch yn barod i’w gwlychu! Dydd Llun 6 Mai 12.00pm, dydd Sadwrn 25 Mai 2.30pm, dydd Sul 26 Mai 3pm.

Creu Creaduriaid y Môr. Dewch i greu creaduriaid y môr gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu – holwch yn y Man Cychod am ein gweithdai crefft i deuluoedd.

Byddwn yn cwrdd gerllaw’r rheiliau coch ar wal yr harbwr cyn pob digwyddiad. O ran y teithiau cerdded ar hyd yr arfordir, bydd rhai rhannau’n serth a bydd y tir yn anwastad. Gofynnwn am rodd i’n helpu i ariannu ein gwaith i godi ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt (awgrymwn o leiaf £1 yr un). Ni allwn dderbyn plant heb gwmni oedolyn ar gyfer unrhyw un o’n digwyddiadau.

Digwyddiad Llwybr Arfordir Cymru – 5ed Mai Aberystwyth
Dewch i ymuno â ni i ddathlu Llwybr Arfordir Cymru yfory yn Aberystwyth rhwng 11am a 4pm. Bydd gennym stondin lle y gallwch gael mwy o wybodaeth am ein cadwraeth ar waith, ynghyd â thanc cimychiaid a chrancod!

Dewch i nôl taflen

‘ACA Bae Ceredigion a Dilyn Bywyd Gwyllt y Llwybr Arfordirol’ o’r stondin neu yn un o’r pwyntiau ar hyd y llwybr (Traeth Poppit, Aberteifi, Mwnt, Cei Newydd ac Aberaeron) – ewch allan i fwynhau’n amgylchedd morol o’r llwybr hwn!

A chofiwch

… os ydych yn gweld rhywbeth diddorol, byddem yn hoffi clywed amdano!

Twitter@CardiganBaySCA

Drwy

’r tab “Have your say“ ar y wefanE-bost y Swyddog ACA:

jkelly@ccw.gov.uk

Gweithgareddau, Camau a Llwybr Arfordir Cymru Gyfan!
﻿Llwybr Arfordir Cymru Gyfan, Aberystwyth – 5 Mai

Dewch draw i fwynhau’r dathliadau wrth i Lwybr Arfordir Cymru Gyfan gael ei agor yn swyddogol. Mi fydd gan ACA Bae Ceredigion stondin yn y babell fawr lle cewch chi fwy o wybodaeth am yr Ardal Cadwraeth Arbennig a’r nodweddion sy’n cael eu gwarchod.

Cymerwch ran yn Nhaith Natur ACA Bae Ceredigion. Mi fydd hon yn eich tywys trwy lefydd hollbwysig ar hyd yr arfordir rhwng Aberarth a Bae Ceibwr! Darllenwch y blog nesaf i gael mwy o wybodaeth.

Neu beth am gymryd rhan yn y digwyddiadau y mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi’u trefnu er mwyn glanhau Llwybr yr Arfordir cyn yr agoriad swyddogol. Anfonwch e-bost at coastalpathcleanup@keepwalestidy.org neu ewch i www.keepwalestidy.org.

Gweithgareddau dros yr haf

Awydd mynd am dro i’r arfordir dros yr haf i geisio gweld y bywyd gwyllt rhyngwladol bwysig sy’n treulio amser yno? Os felly, beth am gymryd rhan mewn gweithgareddau arbennig sydd wedi’u trefnu yn eich ardal – dewch draw ac ymunwch!

Hoffech chi roi hys-bys i gynlluniau sydd gennych ar y gweill? Neu ydych chi eisiau i ni ymuno â digwyddiad rydych yn ei drefnu? Os felly, cofiwch gysylltu!

Camau i’w cymryd – ﻿Adolygiad o Ddulliau Rheoli’r ACA

Mae’r ACA wedi’i dynodi dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd. Fel rhan o’r ddeddfwriaeth, rhaid inni roi gwybod i’r Comisiwn Ewropeaidd bob pum mlynedd pa gamau rydym yn eu cymryd – 2013 fydd y tro nesaf. Dyma beth fyddwn ni a Grÿp yr Awdurdodau Perthnasol yn canolbwyntio arno yn ystod y flwyddyn nesaf, er mwyn paratoi adroddiad ar y cynnydd sydd i’w weld yn ACA Bae Ceredigion. Mi fydd yn rhaid inni dynnu sylw at ein llwyddiannau a sicrhau y bydd y safle’n cael ei reoli’n briodol yn y dyfodol.

Cofiwch gysylltu

Oes gennych chi gwestiwn ar gyfer Swyddog yr ACA neu Grÿp yr Awdurdodau Perthnasol? Cofiwch gysylltu!…Trwy’r wefan: Y tab “Dweud eich dweud”, neu mi allwch chi gyflwyno sylwadau ar eich dewis bwnc. Neu beth am anfon e-bost at Swyddog yr ACA: j.kelly@ccw.gov.uk. A chofiwch ein dilyn ar Twitter: @cardiganbaysac.

Tymor y Nadolig, Hwyl i’r Teulu a Thynnu Lluniau…
Dyma’r blog olaf ar gyfer 2011. Mae’n ymddangos y bydd 2012 yn flwyddyn brysur i ACA Bae Ceredigion. Eisoes rydw i’n paratoi ar gyfer adolygu Cynlluniau Gweithredu, y Cynllun Rheoli a’r Adolygiad Blynyddol (ar gyfer mis Mawrth) – yn ogystal â’r posibilrwydd o gynnal ambell ddigwyddiad ar ôl i’r tywydd wella rhyw ychydig!

Dros y Nadolig beth am wisgo’r teulu mewn dillad cynnes a mentro i’r arfordir i fwynhau’r ACA. Mae dolffiniaid yn dal i drigo yma, a chafodd staff Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Nghei Newydd gipolwg arnyn nhw.

Tra byddwch chi allan cofiwch dynnu lluniau o’r pethau a welwch a’u hanfon ataf trwy e-bost (isod) – mi fydd hyn yn ein helpu i adnabod dolffiniaid, morloi a chreaduriaid eraill yr ACA.

I gloi, Nadolig Llawen iawn i bob un ohonoch gan Awdurdodau Perthnasol a Swyddog ACA Bae Ceredigion!!

Jennifer

j.kelly@ccw.gov.uk

Cyfarfodydd, y Cyfryngau a Chreu Cysylltiadau Newydd…
Cyfarfodydd – Yn ystod y pythefnos diwethaf rydw i wedi cael cyfarfodydd adeiladol iawn:

Cymerais ran yng Ngrÿp Gweithredu Lleol Bae Ceredigion, lle buom yn trafod sut i wella’r wybodaeth am dreftadaeth forol Bae Ceredigion. Yn y gorffennol roedd y môr yn bwysig iawn i fywoliaeth pobl, ac mae hyn wedi datblygu gydag amser i gynnwys cadwraeth natur er mwyn parhau mewn ffordd gynaliadwy.

Hefyd, bu fy nghyfarfod gyda Jenny Higgins o’r Cyngor Cefn Gwlad yn adeiladol iawn, ac mi lwyddon ni i ddod o hyd i rannau o’u Cynllun Gweithredu lle gellir gwella mwy eto ar y ffordd y caiff y tir ei reoli. Erbyn hyn, mae pob Awdurdod Perthnasol yn canolbwyntio ar gamau gweithredu 2012/13 cyn i’r adolygiad gael ei gynnal yn 2013. Fel rhan o hyn, rydw i wrthi’n diweddaru’r Cynllun Rheoli a’r Cynllun(iau) Gweithredu ar gyfer 2012.

Ac mi gefais i brynhawn braf yng nghwmni Laura a Sarah o Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion. Mae gan y ganolfan raglen waith amrywiol sy’n ychwanegu’n arw at y ffordd y caiff y safle ei reoli, yn ychwanegol at y gwaith rheoleiddio sy’n cael ei wneud gan yr Awdurdodau Perthnasol. Gobeithio y bydd modd inni gydlynu ein gweithgareddau er mwyn gallu cyflawni mwy fyth ar gyfer Bae Ceredigion – cadwch eich llygaid ar agor!

Y Cyfryngau – Rydw i wrthi’n llunio canllawiau ar gyfer hyrwyddo’r safle. Dogfen fer fydd hon yn cynnwys gwybodaeth am yr ACA a’i nodweddion, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi am yr ACA yn gywir a chyson. Hefyd mi fydd yn cynnwys syniadau ar gyfer hyrwyddo’r safle’n well, y negeseuon pwysig y mae angen eu cyfleu, y ffynonellau gwybodaeth eraill sydd ar gael, a sut i hyrwyddo defnydd o God Morol Ceredigion.

Creu Cysylltiadau Newydd – Mae’r rhestr sydd gen i o randdeiliaid a sefydliadau y mae eu gwaith yn gysylltiedig ag ACA Bae Ceredigion yn tyfu a thyfu. Rydw i wedi cael ymateb gwych i’r e-byst rydw i wedi’u hanfon, ac rydw i’n edrych ymlaen at feithrin partneriaethau newydd ar gyfer yr ACA!

Mwy o newyddion… Mae Llyfrgell yr ACA yn dal i dyfu, ac mae gen i restr dda o ddeunyddiau i’w hystyried a’u hychwanegu.

Cyhoeddiadau, prosiectau a phosibiliadau!
Crynodeb o weithgareddau’r wythnos diwethaf:

Cyhoeddiadau:

Rydw i wedi anfon tudalen yn sôn am ACA Bae Ceredigion at Wikipedia er mwyn ceisio rhoi mwy o sylw i’r ACA ar y we. Gobeithio y bydd hyn, ynghyd â’n cyfrif Twitter a’r blog, yn denu cyhoeddusrwydd at ein safle ac yn gwella gwybodaeth pawb ynglÿn â gwarchod y môr yn gyffredinol.

Ar ôl bod yn casglu gwaith ymchwil yn sôn am ACA Bae Ceredigion yr wythnos diwethaf, rydw i wedi cael mwy o bapurau gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor – papurau i’w cynnwys yn llyfrgell yr ACA. Mae gan y Cyngor Cefn Gwlad nifer o ddogfennau ymchwil yn sôn am safleoedd Cymru; felly, fy nhasg i dros yr wythnosau nesaf fydd dod o hyd i’r rhai pwysicaf y gallwn ni eu hychwanegu at ein casgliad ymchwil.

Prosiectau:

Bûm yn cyfarfod â John Turner o Brifysgol Bangor i drafod cynigion ar gyfer gwaith ymchwil yn ACA Bae Ceredigion ac ACA Pen Llÿn a’r Sarnau (roedd Alison Palmer-Hargrave, Swyddog ACA Pen Llÿn a’r Sarnau yno hefyd, yn ogystal â Ben Sampson o Gyngor Sir Ceredigion). Bu’r cyfarfod yn un buddiol iawn o ran sicrhau cysylltiad rhwng Prifysgol Bangor a’r gwaith o reoli’r ACA, yn ogystal â nodi meysydd ymchwil.

Gofynnodd John i’r Swyddogion ACA wneud cofnod o brosiectau ymchwil addas y bydd modd seilio traethodau ymchwil gradd Meistr arnyn nhw. Dyma gyfle gwych i ddysgu mwy am yr ACA. Mae croeso i bawb sydd â budd yn yr ACA gynnig syniadau. Oes gennych chi brosiect dan sylw? Cofiwch gysylltu!

Posibiliadau:

Rhywbeth arall a ddeilliodd o’r cyfarfod oedd sgwrs gydag Alison, Swyddog ACA Pen Llÿn a’r Sarnau, ar ôl i’r prif gyfarfod ddod i ben. Rhoddodd y diweddaraf imi am y gweithgareddau y mae hi wedi bod wrthi’n brysur yn eu trefnu – llu o ddigwyddiadau addysgol gwych, ymweld ag ysgolion, rhoi prosiectau ymchwil ar y gweill, defnyddio offer i wella amgylchedd y môr, a grÿp rhanddeiliaid/cyswllt cryf iawn. Mae’r rhain yn gaffaeliad mawr i’r ACA, ac eisoes gallaf weld y manteision o’u rhoi ar waith ym Mae Ceredigion. Y prif rwystr fydd arian. Ond mae hyn yn rhywbeth rydw i’n bwriadu ymchwilio ymhellach iddo. Gallaf weld manteision o greu ‘cyllideb prosiectau’ ar gyfer yr ACA. Ydych chi’n gwybod am gyfleoedd i gael arian? Oes gennych chi syniadau ar gyfer digwyddiadau? Ydych chi’n grÿp a hoffai wneud mwy i reoli’r ACA? Cofiwch gysylltu!

Cofiwch gysylltu!

Mae croeso ichi ddefnyddio’r blwch sylwadau isod a’r tab “dweud eich dweud”. Neu beth am anfon e-bost ata’ i j.kelly@ccw.gov.uk. Byddai’n bleser clywed gennych!

Ymchwil, Adolygiadau ac Awdurdodau Perthnasol…
Crynodeb o ddigwyddiadau’r wythnos diwethaf:

Ymchwil: Fe ddechreuais bori drwy ymchwil a wnaed yn, neu am, ACA Bae Ceredigion er mwyn creu ‘Llyfrgell ACA ‘. Mae rhai dogfennau diddorol iawn am ddolffiniaid trwyn potel, rydw i’n gobeithio eu rhoi ar y wefan yn fuan (cadwch lygad allan am y ‘llyfrgell ACA’). Mi fuaswn wrth fy modd yn gweld mwy o ymchwil yn cael ei wneud o fewn ein ACA i roi hwb mawr i’n dealltwriaeth – rydw i’n gobeithio y bydd y llyfrgell yn amlygu’r bylchau yn ein gwybodaeth ac yn darparu pynciau ymchwil newydd inni!

Adolygiadau: Gyda’r cyfarfod Grŵp Awdurdodau Perthnasol yn prysur agosáu, dechreuais edrych yn ôl dros fy amser yn y swydd hyd yn hyn. Mae cyfran fawr o fy amser wedi cael ei dreulio yn edrych am ffyrdd i wella ein systemau cyfathrebu (mae’r blog hwn yn rhan fechan o hynny). Erbyn hyn mae gennym gyfrif ‘Twitter’, mae rhai wedi awgrymu ein bod yn dechrau cyfrif Facebook, ac rydw i’n cysylltu efo rhanddeiliaid i adennill rhwydwaith o gysylltiadau o bobl sy’n byw, gweithio a chwarae o fewn yr ACA.

Awdurdodau Perthnasol: Dydd Gwener, fe es i fy ail gyfarfod Grŵp Awdurdodau Perthnasol. Roedd hwn yn gyfle gwych imi roi adborth am fy adolygiad i’r Grŵp ac i drafod ein strategaeth ar gyfer rheoli’r safle a fy rhaglen waith ar gyfer gweddill fy nghyfnod yn y swydd.

Dolffiniaid, nosweithiau tywyll a datblygiadau!!
Crynodeb o weithgareddau’r wythnos diwethaf:

Dolffiniaid – Bu’n rhaid imi godi’n blygeiniol Ddydd Iau i gymryd rhan yn Arolwg Dolffiniaid Trwyn Potel Seawatch yn ACA Bae Ceredigion. Parodd ein taith ddeg awr, a bu’n llwyddiant ysgubol. Yn wir, mi welon ni oddeutu hanner cant o wahanol ddolffiniaid o bob oed (rhyw 20% o boblogaeth y Bae, mae’n debyg); yn cynnwys lloi bach a dolffiniaid ifanc busneslyd iawn*. Ond nid y dolffiniaid oedd yr unig rai i’n diddanu ar y diwrnod: roedd morloi llwyd, llamidyddion ac adar drycin Manaw wedi mentro allan hefyd. I gael mwy o wybodaeth am waith ymchwil Seawatch, ewch i:

http://www.seawatchfoundation.org.uk/research.php#4

Nosweithiau tywyll – Ar ôl cael dechrau mor gynnar (a thywyll!) i Ddydd Iau, gallaf ddweud yn sicr fod y gaeaf ar ein gwarthaf. Ond er bod y dydd yn byrhau, mae creaduriaid ACA Bae Ceredigion yn dal i gadw’u hunain yn brysur. Mae pentiroedd Mwnt a Chei Newydd yn fannau bwydo pwysig i ddolffiniaid – byddai’n werth ichi ddod draw i’w gweld. Ac, os gwelwch chi rai, rhowch wybod inni drwy’r wefan!

Datblygiadau – Roedd fy ngweithgareddau eraill yn cynnwys casglu gwybodaeth ar gyfer y cylchlythyr; cyflwyno achos busnes dros gael tudalen ar gyfer ACA Bae Ceredigion ar Facebook, er mwyn inni allu cyfathrebu’n well; paratoi ar gyfer cyfarfod y Grÿp Awdurdodau Perthnasol yr wythnos nesaf; a mynd i gyfarfod adeiladol iawn gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i drafod eu Cynllun Gweithredu dan Gynllun Rheoli ACA Bae Ceredigion.

Oes gennych chi gwestiynau ar gyfer y Swyddog ACA neu aelod arall o’r Grÿp Awdurdodau Perthnasol? Hoffech chi gynnig syniad ar gyfer cyfathrebu’n well â’n rhanddeiliaid? Oes gennych chi syniad neu stori ar gyfer y cylchlythyr? Cofiwch gysylltu!… Trwy’r wefan: Y tab “Dweud eich dweud” neu drwy roi “sylwadau” ar bwnc arbennig. Neu anfonwch e-bost at y Swyddog ACA: j.kelly@ccw.gov.uk. A chofiwch ddilyn ein hanes ar Twitter: @cardiganbaysac.

* Wrth ddefnyddio cychod o fewn yr ACA cofiwch gadw at God Morol Ceredigion er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y creaduriaid a chynorthwyo i warchod mamaliaid môr yr ardal. Gallwch gael copi ar:

http://www.cardiganbaysac.org.uk/wp-content/uploads/2010/04/ceredigion-marine-code-2010.pdf

Croeso i’r blog newydd!
Dydd Llun 24 Hydref

Helo bawb,

Croeso i flog Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion! Beth am ddechrau trwy fy nghyflwyno fy hun. Jennifer Kelly ydw i. Dw i newydd fy mhenodi’n Swyddog ACA ar gyfer ACA Bae Ceredigion a dw i’n gweithio gyda’r Grÿp Awdurdodau Perthnasol. Gweithio i’r Cyngor Cefn Gwlad ydw i, yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, ar ôl symud yma o fy nghartref yng Nghaer. Dw i’n edrych ymlaen at fynd hwnt ac yma i gyfarfod â phawb sy’n danbaid dros amgylchedd y môr, a dw i hefyd yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill i warchod yr ACA!

Mae croeso ichi gysylltu â mi i gael gwybodaeth neu i rannu syniadau! Mae fy manylion cyswllt i’w gweld isod. Fy mwriad ydy rhoi’r diweddaraf ichi ynglÿn â rheoli’r ACA yn y blog, wrth i bethau ddigwydd. Felly cofiwch edrych ar y wefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, i ddweud eich dweud ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau arbennig ar yr ACA.

Erbyn hyn mi allwch chi ddilyn ACA Bae Ceredigion ar Twitter: @cardiganbaysac

Jennifer Kelly

Swyddog ACA Bae Ceredigion/

Cardigan Bay SAC Officer

CCGC/CCW

Adeilad Llywodraeth Cymru/Welsh Government Building

Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr

Aberystwyth, Ceredigion,

SY23 3UR

Ebost/Email: j.kelly@ccw.gov.uk

Ffôn/Telephone: 01970 631171

Cliciwch ar y tab “Dweud eich dweud” ar www.cardiganbaysac.org.uk

Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt a Digwyddiadau o Fan Cychod Gorffennaf 2011
Dydd Sul 3 Saffari Glan y Môr 3pm

Dydd Sul 10 Saffari Glan y Môr 11am

Dydd Gwener 15 Taith Bywyd Gwyllt 3pm

Dydd Sul 17 Saffari Glan y Môr 3.30pm

Dydd Gwener 22 Taith Bywyd Gwyllt 3pm

Dydd Sul 24 Creu Creaduriad y Môr 3pm

Dydd Gwener 29 Taith Bywyd Gwyllt 3pm

Dydd Sul 31 Saffari Glan y Môr 2.30pm

Creu Creaduriaid y Môr: Gweithdy Celf – £1 y plentyn – er mwyn ariannu costau’r deunyddiau

Taith Bywyd Gwyllt:  Taith gerdded araf ar hyd Arfordir Treftadaeth a chyfle i graffu ar Graig yr Adar o’r wylfa.  Cyfle da i geisio gweld mamaliaid y môr yn ogystal â gweld bywyd gwyllt arall yr arfordir ar y ffordd.  Ceir tir serth ac anwastad yn achlysurol ar hyd y daith.

Saffari Glan y Môr:  Archwiliwch traethin a phyllau glan môr Traeth y Dolau wrth i’r llanw ostwng i ddatgelu byd cuddiedig. Gwisgwch esgidiau â gafael oddi tanynt nad oes ots gennych eu bod yn gwlychu!

Bwciwch ymlaen llaw yn y Man Cychod yn harbwr Cei Newydd (01545 561074). Byddwn yn gofyn am gyfraniad i helpu ariannu ein gwaith o godi ymwybyddiaeth ynghylch bywyd gwyllt (awgrymir o leiaf £1 am bob person). Ni all plant ar eu pen eu hunain ddod i unrhyw un o’n digwyddiadau.