Cynllun Rheoli Diwygiedig a Gytunwyd gan Awdurdodau

01 Jul 2008 0 person/people have discussed this topic.

Ailwampiwyd y cynllun rheoli am ardal cadwraeth arbennig. Yn ogystal ag amddiffyn dolffiniaid trwynbwl, ymestynnwyd gwarchodaeth y cynllun gwreiddiol i gynnwys morloi llwyd, lampreiod yr afon a lampreiod y môr, riffiau, banciau tywod tanddwr ac ogofeydd y môr. Wedi cyfnod hir o ymgynghori cyhoeddus, mae’r awdurdodau sy’n gyfrifol am reoli’r ardal wedi cwblhau’r ddogfen sy’n mynd i’r afael â sut i sicrhau gwarchod bywyd gwyllt yr ardal, yn cynnwys cynllun gweithredu am y bum mlynedd nesaf. Mae gan bysgotwyr, gwylwyr bywyd gwyllt, morwyr a phobl eraill sy’n defnyddio’r ardal wybodaeth helaeth i’w gyfrannu, ac wrth ymgynghori roedd cyfle i bawb sy’n defnyddio’r ardal i fynegi eu barn – rydym yn ddiolchgar iawn i bawb gysylltodd â ni i gyfrannu.

Cliciwch yma i ddadlwytho’r Cynllun Rheoli (Pdf 7Mb) (Saesneg yn unig)

Mae materion allweddol y cynllun yn cynnwys:

  • Gofyniad i asesu unrhyw gynllun neu brosiect allai effeithio ar fywyd gwyllt yr ardal, gan roi caniatâd ar yr amod nad yw’n effeithio ar uniondeb y safle
  • Adnabod y bygythiadau allweddol i fywyd gwyllt a beth i’w wneud i leihau’r bygythiad
  • Adnabod diffygion yn ein gwybodaeth a’r angen am fwy o ymchwil o ran y bywyd gwyllt a’r bobl sy’n defnyddio’r ardal
  • Defnyddio’r ‘egwyddor ragofalus’ i reoli gweithgareddau sy’n debygol o beri niwed, hyd yn oed os nad oes prawf fod niwed yn debygol.