Rhagfyr 2004 – Mae’n swyddogol:
07 Dec 2004 0 person/people have discussed this topic.Mae Bae Ceredigion yn un o 8 o ardaloedd morol* yng Nghymru sydd wedi eu dynodi’n ffurfiol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC) dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop. Felly nid yw’n ddarpar safle mwyach (cSAC).
Mae’r Gyfarwyddeb yn anelu at warchod a chynnal cynefinoedd a rhywogaethau sydd o bwys Ewropeaidd a chenedlaethol trwy sefydlu rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig (SAC), a adwaenir fel “Rhwydwaith Natura 2000″. Ar draws y Deyrnas Unedig cynigiwyd tua 608 o ddarpar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn rhan o’r rhwydwaith hwn, ac o blith y rhain roedd 90 yng Nghymru.
Ar 7 Rhagfyr 2004, bu i’r Comisiwn Ewropeaidd fabwysiadu rhestr y Deyrnas Unedig o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Yna bu i Carwyn Jones, y Gweinidog Amgylchedd yn Llywodraeth y Cynulliad ddynodi’r 90 safle Cymreig yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ffurfiol ar 13 Rhagfyr 2004.
O blith y 608 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn y Deyrnas Unedig, mae 37 ohonynt yn rhai morol ac mae 8 ohonynt yng Nghymru. Y rhain yw Afon Menai a Bae Conwy, Bae Cemlyn, Arfordir Môn (Morfa Heli), Penrhyn Lly^n a’r Sarnau, Bae Ceredigion, Sir Benfro a’r Môr, Arfordir Calchfaen De Orllewin Cymru a Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd (Nid yw aberoedd Afon Hafren ac Afon Dyfrdwy wedi eu dynodi eto). Cewch wybodaeth fanwl am bob Ardal Gadwraeth Arbennig ar wefannau’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol y Deyrnas Unedig. Cyd-Bwyllgor Cadwraeth Natur ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol y Deyrnas Unedig.
Y cam ffurfiol nesaf fydd nodi’r ardaloedd Cymreig ar “Gofrestr Safleoedd Ewropeaidd” Llywodraeth y Cynulliad. Unwaith y bydd hyn wedi ei wneud bydd copi o’r Gofrestr ar gael ar gyfer ymgynghori cyhoeddus yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru.
