Cwch patrolio newydd
15 Jun 2008 0 person/people have discussed this topic.
Diolch i Gronfa Stiwardiaeth Forol Ystad y Goron, lansir cwch patrolio newydd yn ystod haf eleni ar gyfer Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion. Bydd ymwelwyr ag arfordir Ceredigion yn medru gweld y cwch aer caled 5 metr o faint gydol misoedd yr haf. Bydd patrolio â chwch yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’r broses o reoli’r safle bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol ac yn ein helpu i drosglwyddo’r neges lle y mae’r angen mwyaf.
Dyma a ddywedodd y meistr llongau Ben Sampson, sef Swyddog Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion: “Bydd cael presenoldeb ar y dŵr yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r broses o ddiogelu bywyd gwyllt ysblennydd Bae Ceredigion. Tra bo’r rhan fwyaf o berchnogion cychod yn gyfrifol iawn ac yn gwybod sut mae ymddwyn, gwyddys mai cychod diofal yw un o brif achosion aflonyddwch i famaliaid ac adar y môr. Gwell rhwystro problem na’i datrys a’r rhan fwyaf o’m gwaith ar y dŵr fydd cynyddu ymwybyddiaeth o’r dolffiniaid, y morloi a’r bywyd gwyllt arall a’r ffaith bod cychwyr cyfrifol yn cyfarfod â bywyd gwyllt mewn modd gwell, ond bydd yn dra defnyddiol medru ymateb yn gyflym i unrhyw adroddiadau o arferion gwael – rhaid cofio bod y gyfraith yn diogelu dolffiniaid, llamhidyddion a rhywogaethau eraill rhag aflonyddwch bwriadol neu anystyriol”
