Lansio ymgynghoriad ar y cynllun cychod
30 Mar 2009 0 person/people have discussed this topic.
Mae ymgynghoriad pwysig yn cael ei lansio’r wythnos hon a fydd yn helpu i lunio’r broses o reoli gweithgareddau cychod yn y dyfodol ar hyd yr arfordir. Bu Cyngor Sir Ceredigion yn hyrwyddo Côd Ymddygiad ar gyfer defnyddwyr cychod hamdden i geisio aflonyddu cyn lleied ag y bo modd ar fywyd gwyllt y Bae sydd wedi’i ddiogelu.
Mae’r gyfraith yn diogelu dolffiniaid, llamhidyddion a morloi rhag aflonyddwch pwrpasol neu ddihid a dynodwyd llawer o’r arfordir yn ardal gadwraeth arbennig. Ar hyn o bryd, mae terfynau cyflymder mewn grym o dan is-ddeddf o amgylch yr harbyrau a’r traethau ymdrochi ynghyd â therfynau cyflymder gwirfoddol ar hyd Arfordir Treftadaeth y Môr o Drwyn Ceinewydd i Langrannog. Serch hynny, goroleuai ymchwil diweddar sawl pentir sy’n feysydd bwydo pwysig i ddolffiniaid. Felly, mae’r Cyngor yn ceisio barn pobl i ddarganfod a oes angen cymryd unrhyw fesurau ychwanegol yn yr ardaloedd sensitif hyn, ac os oes, pa rai?
Ychwanegodd Liz Allan, y Swyddog Rheoli Cadwraeth : Gan ein bod bellach yn deall yn well ble y mae lleoliad yr ardaloedd sydd â bywyd gwyllt sensitif, gallai fod ardaloedd ar y llaw arall lle y gellid datblygu a hyrwyddo cyfleusterau defnyddio cychod (yn enwedig cychod modur a chychod personol). Byddai diddordeb gennym gael barn pobl am hynny a hefyd a oes angen gwneud newidiadau i’r Côd Ymddygiad ynghyd ag unrhyw syniadau am y dull gorau o gyfathrebu hynny.
Mae’r gyfraith yn gwarchod dolffiniaid, llamhidyddion a morloi rhag cael eu haflonyddu’n fwriadol neu’n fyrbwyll. Drwy lanw’r holiadur hwn gallwch leisio’ch barn ynglŷn â’r ffordd orau o reoli cychod ar ein harfordir er mwyn sicrhau fod cychod hamdden yn gallu cydfyw â’r bywyd gwyllt anhygoel, er mwynhad pawb.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn mynd rhagddo tan fis Medi a gellir dadlwytho holiadur yma neu drwy ffonio Cyngor Sir Ceredigion – 01545 572110.
Gallwch e-bostio’r ffurflenni wedi eu llenwi at liza@ceredigion.gov.uk neu eu hanfon at Liz Allan, Tîm yr Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA
Further information – cliciwch yma
Holiadur – MS Word
Holiadur – pdf
