Cyhoeddi’r adolygiad mawr o ddeddfwriaeth pysgodfeydd yng Nghymru
16 Dec 2010 0 person/people have discussed this topic.Mae Elin Jones, Gweinidog dros Faterion Gwledig Cymru wedi cyhoeddi adolygiad mawr o ddeddfwriaeth pysgodfeydd yng Nghymru.
Disgwylir i’r adolygiad gymryd hyd at bum mlynedd oherwydd bod cymaint o ddeddfwriaeth, ac fe’i sefydlwyd yn dilyn nifer o newidiadau yn y gwaith o reoli pysgodfeydd ledled Cymru a pharth Cymru ers mis Mawrth eleni.
Crëwyd Parth Cymru ar 31 Mawrth 2010, a throsglwyddwyd swyddogaethau pysgodfeydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â’r ardal o Barth Cymru sydd y tu hwnt i’r môr tiriogaethol (sef y tu hwnt i 12 môr-filltir).
Ar 1 Ebrill 2010 daeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am reoli pysgodfeydd y glannau yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig:
“Yn gynharach eleni etifeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru swm sylweddol o ddeddfwriaeth yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd – mwy na dau gant o eitemau ar wahân i gyd.
“Mae hynny’n cynnwys deddfwriaeth a wnaethpwyd gan Bwyllgorau Pysgodfeydd y Môr yng Nghymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Llywodraeth y DU.
“Rwyf bellach yn awyddus i ni fanteisio ar y cyfle hwn i edrych ar yr hyn sydd gennym, sut mae’n gweddu ag amcanion Strategaeth Pysgodfeydd Cymru ac a oes cyfle i symleiddio neu foderneiddio’r ddeddfwriaeth bresennol.
“Dyma paham yr wyf wedi comisiynu adolygiad llawn o’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd môr fydd yn cael ei hintegreiddio’n llwyr gyda’r grwpiau rhanddeiliaid pysgodfeydd newydd sy’n cael eu sefydlu ar hyn o bryd.”
Gofynnwyd i’r Grwpiau Pysgodfeydd y Glannau newydd a Grŵp Cynghori Pysgodfeydd Morol Cymru gyfrannu hefyd i’r broses adolygu.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae cyfranogiad gan y diwydiant yn hanfodol felly rwy’n gofyn i bysgotwyr a’r rhai sydd â diddordeb wneud yn siŵr eu bod yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar y materion hynny sy’n effeithio arnynt.”
