Croeso i’r blog newydd!
24 Oct 2011 0 person/people have discussed this topic.Dydd Llun 24 Hydref
Helo bawb,
Croeso i flog Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion! Beth am ddechrau trwy fy nghyflwyno fy hun. Jennifer Kelly ydw i. Dw i newydd fy mhenodi’n Swyddog ACA ar gyfer ACA Bae Ceredigion a dw i’n gweithio gyda’r Grÿp Awdurdodau Perthnasol. Gweithio i’r Cyngor Cefn Gwlad ydw i, yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, ar ôl symud yma o fy nghartref yng Nghaer. Dw i’n edrych ymlaen at fynd hwnt ac yma i gyfarfod â phawb sy’n danbaid dros amgylchedd y môr, a dw i hefyd yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill i warchod yr ACA!
Mae croeso ichi gysylltu â mi i gael gwybodaeth neu i rannu syniadau! Mae fy manylion cyswllt i’w gweld isod. Fy mwriad ydy rhoi’r diweddaraf ichi ynglÿn â rheoli’r ACA yn y blog, wrth i bethau ddigwydd. Felly cofiwch edrych ar y wefan i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, i ddweud eich dweud ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau arbennig ar yr ACA.
Erbyn hyn mi allwch chi ddilyn ACA Bae Ceredigion ar Twitter: @cardiganbaysac
Jennifer Kelly
Swyddog ACA Bae Ceredigion/ Cardigan Bay SAC Officer CCGC/CCW Adeilad Llywodraeth Cymru/Welsh Government Building Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR Ebost/Email: j.kelly@ccw.gov.uk Ffôn/Telephone: 01970 631171Cliciwch ar y tab “Dweud eich dweud” ar www.cardiganbaysac.org.uk
