Gwirfoddoli

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i gadw amgylchedd morol Bae Ceredigion. Pam nad ymunwch â’r tîm gan gymryd rhan mewn gweithgareddau megis ein cynorthwyo i gasglu data gwerthfawr am ddolffiniaid, cael gwared ar sbwriel oddi ar draethau a chynyddu ymwybyddiaeth am ba mor bwysig yw’r amgylchedd lleol.

Gwylio Dolffiniaid

Os oes dwy awr yr wythnos gennych yn rhydd ym misoedd yr haf ac os ydych yn hoff o’r syniad o weld dolffiniaid yn rheolaidd yn y gwyllt, pam na chymerwch ran yn y “gwylio dolffiniaid”. Byddwch yn rhan o dîm ymroddedig a fydd yn astudio’r berthynas rhwng traffig cychod lleol a’r defnydd y mae’r dolffiniaid trwynbwl yn ei wneud o’r safle. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i wneud penderfyniadau am y modd yr ydym yn rheoli gweithgareddau hamdden. Mae hyfforddiant llawn ar gael a bydd rhywun bob amser ar gael i’ch helpu.

Gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â Liz Allan ar 01545 572142

Man Cychod, cwch patrolio, teithiau cerdded tywysedig

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal canolfan wybodaeth fechan am fywyd gwyllt a chychod ar yr harbwr yn Ngheinewydd (Man Cychod Bae Ceredigion), cwch patrol i hyrwyddo’r côd ymddygiad a defnyddio cychod mewn modd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, mae’n cydlynu Gwylio Dolffiniaid, sef rhaglen sy’n bodoli ers amser maeth i fonitro mamaliaid y môr a gweithgareddau cychod ac, yn 2010, bydd yn cynnal cyfres o deithiau cerdded tywysedig sy’n canolbwyntio ar fywyd gwyllt y môr.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo â phob un o’r rhaglenni hyn a fydd yn cydweithio â thîm cadwraeth y Cyngor yng Ngheinewydd. Bydd y rhaglenni yn mynd rhagddynt o ddechrau mis Mai tan ddiwedd mis Medi. Mae nifer o leoedd gwag ar gael ac mae angen ymrwymiad o hanner diwrnod yr wythnos fan leiaf arnom ar gyfer y Man Cychod a’r Cwch Patrolio; rhaid i wirfoddolwyr Gwylio Dolffiniaid neu deithiau cerdded tywysedig fedru gwneud ymrwymiad o ddwyawr fan leiaf yr wythnos.

Rydym yn chwilio am bobl ddinynadwy a hyderus sydd â sgiliau rhyngbersonol ardderchog a gwybodaeth dda o’n bywyd gwyllt arfordirol. I helpu â’r cwch, rhaid bod yn nofiwr hyderus, yn heini ac iach a’r peth delfrydol fyddai meddu ar beth profiad o gychod, ond rhoddir hyfforddiant sylfaenol ac offer diogelwch.

Gwybodaeth ar gyfer Gwirfoddolwyr

Mabwysiadu Traeth - Beth yw hynny?

A hoffech gael mwy o rôl i gynnal a chadw ansawdd eich arfordir lleol?

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi cymorth i aelodau’r gymuned sy’n dymuno cyfrannu mewn gweithgareddau cadwraeth diogel a phleserus.

Trwy gyfrwng ei gynllun Gofal Arfordir (Coastcare), bydd grwpiau o wirfoddolwyr yn canolbwyntio ar ofal parhaus yr ardal a ddewiswyd ganddynt gan gynnal digwyddiadau sy’n amrywio o weithgarwch casglu ysbwriel i weithgareddau addysg amgylcheddol - chi sy’n penderfynu ar yr hyn i’w wneud!

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i sefydlu neu ymuno â’ch grŵp gofal Arfordiragosaf, cysylltwch â Cadwch Gymru’n Daclusar 01646 681949 / 07824504801