Morloi Llwydion

Mae 124 000 o forloi llwydion yn nyfroedd y DU (sef tua 39% o holl niferoedd y byd). Amcangyfrifir bod De-Orllewin Cymru yn drigfan i 5,000.

Grey SealGwyddys bod morloi llwydion yn crwydro ledled yr Ardal Gadwraeth Arbennig ac amcangyfrifir bod 66 o loi bach yn cael eu geni ar y traethau bob blwyddyn o fewn yr Ardal Gadwraeth Arbennig.

Ar ben hyn, yn sgîl astudiaeth dagio a wnaed i ddarganfod faint o Fôr Iwerddon a ddefnyddir gan forloi llwydion, cl

ustnodwyd bod defnydd mawr ar un ardal yn rhan ddeheuol Bae Ceredigion, sef tua 40-50km o’r lan.

Credir mai bwydo yn bennaf ar wyniaid y môr, lledod, penwaig a physgod bwyell y mae’r morloi llwydion sydd yng Ngorllewin Cymru.

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Yn ogystal â’r dolffiniaid sy’n byw ym Mae Ceredigion, gwyddom fod yno forloi hefyd yn chwilota am fwyd yn yr ardal, yn magu ac yn cymdeithasu. Gallwch helpu drwy wneud pob ymdrech i beidio â tharfu arnynt, yn enwedig pan ddônt â’u cenawon bach i’r lan.
Bydd morloi’n aml yn dod i orwedd ar draethau, creigiau ac ogofâu môr; mae hyn yn naturiol iddynt ac mae’n rhoi amser iddynt dreulio’u bwyd a gorffwys. Felly os gwelwch chi forlo’n gorwedd ar y traeth, nid yw hynny’n golygu o reidrwydd ei fod yn sâl neu wedi brifo.
Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod y tymor magu, gan ei bod yn hawdd dod ar draws cenawon bach bryd hynny a dod i’r casgliad eu bod wedi’u gadael yn amddifad. Nid hynny sydd wedi digwydd gan amlaf, gan fod eu mamau’n eu gadael ar y traeth wrth fynd i’r môr i chwilio am fwyd, ac felly dylid gadael llonydd iddynt. Ni ddylech chi byth â hel cenawon morloi’n ôl i’r môr – mae hyn yn peri gofid mawr iddynt ac yn eu rhwystro rhag gwneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud – gorffwys a thyfu. Prin y mae cenawon swci’n medru nofio, hefyd. Bydd y fam fel arfer yn y môr nid nepell o’r traeth, ond wnaiff hi ddim dychwelyd at ei chenawon os bydd pobl o gwmpas y traeth, a gall aflonyddwch fygwth y cysylltiad rhwng mamau a’u cenawon.
Ar ôl storm bydd morloi’n aml yn dod i orwedd ar draethau i orffwys a chael eu nerth yn ôl, ac nid oes angen cymorth ar y rhan helaeth ohonynt, ond os gwelwch chi forlo a’ch bod yn poeni am ei iechyd, cysylltwch â Swyddog yr Ardal Forol Warchodedig neu’r RSPCA (manylion cyswllt isod).
Os ydych chi’n poeni fod rhywun yn aflonyddu ar forlo bach ar draeth yng Ngheredigion, cysylltwch â Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion, Melanie Heath, drwy e-bostio melanie.heath2@ceredigion.gov.uk neu ffonio 07779318609 neu 01545 561074; mewn argyfwng lle’r ydych chi’n credu bod y creadur yn sâl iawn neu wedi’i anafu’n ddifrifol, cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999.

Morloi llwydion 

Disgrifiad: Mae’r morloi gwrywaidd neu’r ‘morloi gwryw’ yn tyfu i fod yn 3m ac maent fel arfer yn dywyllach na’r morloi benywaidd neu’r ‘morloi benyw’ sy’n tyfu i fod yn hyd at 1.7m yn unig. Mae’r lloi bach yn wyn pan gânt eu geni, ond maent yn troi’n fwy llwyd yn ystod yr wythnosau cyntaf. Mae ganddynt gorff llyfn a thrwyn a llygaid mawr.

Ymddygiad: Gellir eu gweld ger ymyl y traeth yn aml wrth iddynt hela a bwydo ond maent hefyd yn mynd allan i’r môr am gyfnodau hir. Bydd morloi yn plymio am oddeutu wyth munud pan fyddant yn chwilio am fwyd, ond pan fyddant yn gorffwys neu’n cysgu, gallant aros ar yr wyneb am hyd at 13 munud.

Deiet: Pysgod, cramenogion a molysgiaid

Atgenhedliad: Mae morloi benywaidd yn esgor ar un llo bach y flwyddyn yn ystod yr hydref ac maent yn eu geni ar y lan ar draethau anghysbell y Bae ac mewn ogofeydd môr.

Niferoedd Lleol: Amcangyfrifir bod 17 o loi bach yn cael eu geni rhwng Ynys Lochtyn a Phenrhyn Ceinewydd bob blwyddyn.