Llysywod pendoll yr afon a’r môr

Llysywen bendoll yr afon (Lampetra fluviatilis)a Llysywen bendoll y môr (Petromyzon marinus)

Cefndir: Mae llysywod pendoll yn fath hynafol o bysgod. Gyda cheg sugno yn hytrach na genau, maent yn dra gwahanol i unrhyw rywogaeth arall o bysgod ym Mhrydain neu Iwerddon.

Mae llysywod pendoll yn gymharol gyffredin yn y DU. Fodd bynnag, yn ystod y ganrif hon, mae’r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt wedi dioddef oherwydd amrediad o effeithiau, gan gynnwys llygredd, newidiadau yn y ffordd y defnyddir tir a pheirianneg afon. Gall llygredd gael effaith wenwynig uniongyrchol, gall silt o dir oddi amgylch fygu cynefinoedd magu pwysig, a gall peirianneg afon waredu ardaloedd meithrin pwysig. Gall coredau ac argaeau artiffisial eu rhwystro rhag symud i gynefinoedd bwydo a magu.

Cyfyng iawn yw’r wybodaeth am nifer y llysywod (lampreion) ac am sut y’u gwasgerir o fewn Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion. Serch hynny, dywed pysgotwyr afonydd Teifi ac Aeron eu bod yn dal llysywod ers cenedlaethau ac mae cofnodion diweddar yn dangos bod y ddwy rywogaeth yn bresennol yn y Teifi.

Mae llysywod o bob rhywogaeth yn magu mewn dyfroedd croyw yn y gwanwyn/dechrau’r haf (yn ôl y rhywogaeth). Yn sgîl hyn, daw cyfnod larfaol (cyfnod amosetau) a threulir y cyfnod hwnnw ar welyau silt perthnasol mewn nentydd ac afonydd. Wedi pryfio’n oedolion, mae llysywod pendwll yr afon a’r môr yn bwydo fel parasitiaid ar amrywiaeth o bysgod. Pan yn ifanc, mae llysywod pendwll yn fwyd pwysig i lawer o bysgod ac adar. Bu asesiad o ba mor niferus yw’r llysywod pendwll sydd yn afon Teifi yn y cynefinoedd gorau neu sydd bron yn orau, ond ystyriai’r Cyd-Bwyllgor Cadwraeth Natur bod y niferoedd yn llai na ffafriol. (Gweler tud. 15 am fwy o wybodaeth)

.

Sut allwch chi helpu?

O bryd i’w gilydd, caiff llysywod pendoll eu dal wrth i bobl bysgota am bysgod dŵr croyw neu eog. Os byddwch yn dal un, a fyddech gystal â’i ddychwelyd cyn gynted ag y bo modd gan osgoi cyffwrdd ag ef gymaint ag y bo modd. Mae’n gyffredin i weld llysywod pendoll ar eu gwelyau silio hefyd – a fyddech gystal â rhoi gwybod i ni os byddwch yn eu gweld.

Am fwy o wybodaeth am llysywod pendoll, cliciwch yma (Saesneg yn unig)

(Nodiadau wedi’u cymryd o “Llysywod pendoll- neges gadwraeth”. Cynhyrchwyd ar y cyd gan English Nature, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.)

Llysywod pendoll yr afon a’r môr

Cylch bywyd: Mae llysywod pendoll ifanc yn byw trwy gladdu eu hunain yng ngwelyau silt ger ymylon afonydd dŵr croyw, lle y mae’r dŵr yn llonydd. Maent yn ddall, nid oes ganddynt ddisg geneuol ac maent yn bwydo ar ronynnau bach iawn yn y dŵr. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn tyfu ar ffurf larfa, maent yn trawsnewid yn llysywod pendoll llawn dwf ac yn symud i safleoedd meithrin. Mae llysywod pendoll afon a môr llawn dwf yn symud i aberoedd neu i’r môr lle y maent yn byw fel parasitiaid a’r bysgod eraill. Maent yn dychwelyd i safleoedd dŵr croyw i silio yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf, fel arfer mewn mannau caregog neu graeanllyd lle y mae’r dŵr yn llifo’n gyflym. Nid yw’r oedolion yn bwydo mewn dŵr croyw, ac maent yn marw ar ôl silio.

 

Amosetau (cyfnod larfaol y llysywen bendoll)
@Ross Gardiner, Gwasanaethau Ymchwil Pysgodfeydd.

Nodiadau ynghylch adnabod: Mae lampreiod ymhlith yr anifeiliaid fertebraidd mwyaf cyntefig. Mae ganddynt sgerbwd cartilag yn hytrach nag asgwrn a cheg sugno arbennig yn hytrach na genau. Mae eu cyrff yr un siâp â chyrff llysywod ond nid oes ganddynt gennau. Mae gan oedolion ddwy asgell ar eu cefnau, y maent yn aml yn ymuno â’r asgell hir ar y gwt. Nid yw mandyllau’r tagellau – un rhes ar bob ochr y pen – wedi’u gorchuddio.

Llysywod pendoll y Môr Llawn Dwf:
lliw: cefn ac ochrau brith
ceg: dannedd ar ddisg geneuol yn agos i resi ymledol.

Llysywod pendoll yr Afon Llawn Dwf :
ond: <50cm
lliw: cefn ac ochrau o’r un lliw
esgyll: esgyll dorsal (top) bob amser ar wahân
ceg: disg geneuol crwn gyda rhai dannedd arbennig, heb fin