Y dolffiniaid trwynbwl

Gwelir pum rhywogaeth o ddolffiniaid go iawn yn nyfroedd Prydain, a’r Dolffin Trwynbwl (Tursiops truncatus) yw’r un a welir amlaf.

Bae Ceredigion yw un o ddim ond dwy ardal yn nyfroedd y DU sy’n drigfan i ddolffiniaid trwynbwl sydd wedi hanner ymgartrefi yno (ym Morray Firth, yr Alban y mae’r llall).

Yn fyd eang, mae dolffiniaid trwynbwl yn rhywogaethau cosmopolitanaidd sydd ar wasgar mewn ystod o gynefinoedd sy’n agos at y glannau yn bennaf a dim ond yn nyfroedd y pegynnau y maent yn absennol. Ni wyddys beth yw statws dolffiniaid trwynbwl yn nyfroedd Prydain nac Iwerddon; yn fyd eang, mae mannau pysgota yn bygwth y rhywogaethau mewn rhai ardaloedd gan eu dal yn ddamweiniol mewn rhwydi, ynghyd â dirywiad yn eu cynefin a dylanwadau anthropogenig eraill.

Mae’r wybodaeth sydd ar gael hyd yn hyn yn awgrymu bod dolffiniaid Bae Ceredigion yn symud llawer ac yn llydan eu cwmpas. Gwelwyd hefyd ddolffiniaid unigol a oedd yn rheolaidd ar hyd arfordir deheuol y Bae yng ngogledd a de’r Ardal Gadwraeth Arbennig. Gwyddom fod mwy na 300 o ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion, oddeutu 200 mewn unrhyw un flwyddyn, gyda niferoedd yn cynyddu yn ystod yr haf, gan gyrraedd uchafbwynt yn niwedd Medi a Hydref.

Dros y blynyddoedd, aethpwyd ati gan amlaf i weld y dolffiniaid rhwng Ceinewydd a Phentir Cemaes, ac yn aml, gwelwyd y dolffiniaid o fewn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig oddi ar bentiroedd ac mewn ardaloedd mwy cysgodol ger Ceinewydd, Ynys Lochtyn, Aberporth, Mwnt, ac Aber yr Afon Teifi.

Cardigan Bay SAC

Beth a allwch wneud i helpu?

Os ydych yn defnyddio’r môr, dilynwch Gôd Ymddygiad Ceredigion.

Mae Bae Ceredigion yn lle pwysig i ddolffiniaid trwynbwl gan y defnyddiant yr ardal i atgynhyrchu, magu a bwydo’u rhai bach a gallai gormod o aflonyddwch gael effaith negyddol ar eu hegni ac effeithio ar eu hiechyd yn gyffredinol neu eu dadleoli.

Ar ben hyn, peidiwch â thaflu sbwriel a helpwch ni i gadw traethau a dyfroedd ein harfordir yn lân. Mae sbwriel yng nghynefin y môr yn para’n hir iawn a gall gael effeithiau andwyol ar famaliaid y môr a allai fogi ar sbwriel drwy ei gamgymryd am fwyd.

Gall y sawl sy’n byw yn yr ardal ac sy’n frwdfrydig i sylwi ar ddolffiniaid gymryd rhan yn ein rhaglen wirfoddol “Gwylio Dolffiniaid”, i fonitro o’r tir y rhyngweithio sydd rhwng y dolffiniaid a gweithgarwch cychod (am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Melanie Heath:  melanie.heath2@ceredigion.gov.uk neu ffon 01545 561074.

Cardigan Bay SAC

Dolffiniaid trwynbwl

Disgrifiad: Mae dolffiniaid trwynbwl yn tyfu i hyd ar gyfartaledd o 3.1 i 3.7 medr (10 – 12 troedfedd), gan gyrraedd hyd at 4m yn nyfroedd y DU lle y maent yn y man pellaf tua’r gogledd

Ymddygiad: Ymddengys bod dolffiniaid trwynbwl yn defnyddio Bae Ceredigion ar gyfer pob gweithgarwch hanfodol gan gynnwys bwydo, cymdeithasu a magu eu rhai bach ac mae’n well ganddynt ardaloedd lle y mae’r cerhyntau llanw yn gryf ger y penrhynion a’r aberoedd.

Deiet: pysgod, cramenogion a molysgiaid

Atgynhyrchu: Mae’r gwrywod yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol yn 10-12 oed tra y gall y benywod ddechrau atgynhyrchu rhwng 5 a 12 oed. Mae’r benywod yn rhoi genedigaeth i un llo bob 4 i 6 mlynedd ar ôl cyfnod cyfebru o 12 mis. Bydd y lloi yn sugno’r deth am 18 i 24 mis, ond gall y berthynas agos rhwng y llo a’i fam bara hyd at 6 mlynedd.

Niferoedd lleol: Gwyddom fod mwy na 300 o ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion, oddeutu 200 mewn unrhyw un flwyddyn, gyda niferoedd yn cynyddu yn ystod yr haf, gan gyrraedd uchafbwynt yn niwedd Medi a Hydref.