Psygodfeydd

Mae’r pysgodfeydd yn rhan bwysig o Fae Ceredigion, gan roi bywoliaeth i’r diwydiant pysgota masnachol lleol a chychod pysgotwyr hamdden ac maent yn nodweddu trefi a phentrefi ar yr arfordir. Mae gwylio bywyd gwyllt a gweithgareddau pysgota yn gynyddol boblogaidd, gan ddenu llawer o ymwelwyr i’r Bae a chynhyrchu incwm gwerthfawr ar gyfer y cymunedau sydd oddi amgylch. Heb gyflenwad o bysgod iach, sef un o brif nodweddion yr Ardal Gadwraeth Arbennig, ni allai’r dolffin trwynbwl fyw yn y Bae.

Mae llawer o’r cychod pysgota sy’n gweithio yn Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn rhai bychain y glannau. Maent ran fynychaf yn dal cimychiaid, crancod a chorgimychiaid. Mae sawl deddf leol yn ei lle i ddiogelu’r rhywogaethau hyn, gan gynnwys isafswm maint, cyfyngiad ar y niferoedd i’w dal gan bysgotwyr anfasnachol a diogelu cimychiaid sydd â bylchau “v”. Mae rhywfaint o rwydo yn digwydd, gan ddal swilynnod, hyrddiaid, crancod heglog, morgwn, torbytiaid a phenwaig. Nid oes dim pysgodfeydd masnachol o gocos na chregyn gleision o fewn yr Ardal Gadwraeth Arbennig. Mae pysgotwyr hamdden mewn cychod ac ar y glannau yn dal amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys morgwn gleision, merfogiaid duon, morgwn, mecryll, torbytiaid, gwyniaid y môr a morleisiaid. Dros y gaeaf, o fis Tachwedd ymlaen, mae cloddio am gregyn bylchog yn digwydd gyda chychod mawrion yn bennaf yn gweithio ar y môr. Mae Rheoliadau yn eu lle sy’n cyfyngu’r ardaloedd a’r adegau o’r flwyddyn pryd y gellir cloddio am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion. Mae’r cyfyngiadau hyn yn diogelu’r creigresi ac yn helpu i sicrhau bod cyn lleied ag y bo modd o wrthdaro rhwng offer potio a chychod cloddio am gregyn bylchog.

Y gwanwyn, yr haf a’r hydref yw’r prif dymhorau pysgota. Mae misoedd y gaeaf a thywydd gwael yn cyfyngu’n sylweddol ar bysgota, gan atal cychod llai o faint rhag gweithio ac yn difrodi’r offer pysgota.

Mae cyfrifoldebau cynyddol gan y Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr tuag at ddiogelu’r amgylchedd. Maent yn gwneud deddfau lleol i ddiogelu pysgodfeydd a’r amgylchedd o fewn eu pwerau presennol. Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru sy’n rheoleiddio pysgodfeydd hyd at 6 milltir fôr, gan rychwantu’r rhan fwyaf o arfordir Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion hyd at Ben Cemaes (ffin ogleddol Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru). Gallai deddfau lleol gyfyngu ar ddulliau pysgota a gosod isafswm maint i’r pysgod. Mae manylion y rheolau lleol ar gael ar wefan y Pwyllgor, neu oddi wrth swyddfa’r Pwyllgor. Swyddogion Pysgodfeydd a chwch patrol yr Aegis sy’n gorfodi’r deddfau lleol ac yn canfod yn gyffredin bod cydymffurfio da arnynt.

Yn y Cynllun Rheoli diwygiedig, bydd y camau gweithredu ar bysgodfeydd yn parhau â gwaith y Swyddogion Pysgodfeydd ym maes monitro’r pysgodfeydd, gorfodi’r deddfau lleol a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r isafswm maint a chodau arferion da. Anogir pysgotwyr o bob math i gofnodi dalfeydd a golygfeydd anarferol. Mae Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-Orllewin Lloegr a De Cymru wedi penodi Swyddog Bioamrywiaeth a bydd yn dal i gyd-gysylltu â swyddog yr Ardal Gadwraeth Arbennig a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ym maes gweithgareddau psygodfeydd.

O ran pysgodfeydd ymhell o’r glannau, mae’r Cynllun Rheoli adolygedig yn clustnodi camau gweithredu i weithio tuag at system rheoleiddio ryngwladol a fydd yn sicrhau cyfundrefn rheoli gynaliadwy i amddiffyn y cyflenwad o bysgod a fydd ym Môr Iwerddon yn y dyfodol.