Ansawdd Dŵr
Ffynonellau Penodol a Gwasgaredig


Mae nifer o afonydd yn llifo i Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, gan gynnwys yr Afon Teifi, yr Afon Aeron a’r Afon Arth gyda’r Teifi yn darparu’r prif ddalgylch. Mae ansawdd dŵr y Teifi yn dda yn gyffredinol er bod y canlynol yn broblemau mewn ardaloedd cyfyngedig:
- Mae’r dŵr sydd ar wyneb rhai is-afonydd penodol ac ar Byllau Teifi yn asidig (daw hyn o’r awyr ac o ddyfroedd cloddio am fetelau)
- lygredd organig o fyd amaeth.
- Lefelau uchel o ffosfforws o dir amaeth a gweithfeydd trin carthion.
- Cafnau golchi defaid pyrethroid synthetig.
- Rhyddhau metelau o fwynau segur i gynefin y môr drwy gyfrwng afonydd y Rheidol a’r Ystwyth yng ngogledd y sir.
Sut y rheolir ffynonellau llygredd penodol a gwasgaredig yn yr Ardal Gadwraeth Arbennig?
Drwy ddefnyddio cyfuniad o dechnegau samplo dŵr a monitro pryfed a physgod, mae Adran yr Amgylchedd, Cymru yn crynhoi “gwiriadau iechyd afonydd” cyffredinol. Ochr yn ochr â mynd rhagddi i fonitro ansawdd yr afonydd, ymgymerir ag ymgyrchoedd atal llygredd i leihau effaith llygryddion megis carthion, slyri, plaladdwyr, nitradau, ffosffadau ac olew.
Ffynonellau penodol
Ymgymerodd Adran yr Amgylchedd, Cymru ag Asesiad Priodol o bob cysyniad gollyngiadau newydd a phresennol (ffynonellau penodol) fel rhan o’r broses Adolygu Cysyniadau. Ystyrir pob cysyniad newydd fel Cynllun neu Brosiect.
Ffynonellau gwasgaredig
Gall llygredd gwasgaredig ddod o lawer o ffynonellau gwahanol, er enghraifft goferion llieiniau o gaeau neu fwynau metel segur. Bydd y Prosiect Llygredd Gwasgaredig sy’n mynd rhagddo yn egluro achosion ansawdd dŵr israddol a llywio gwelliannau posibl i ansawdd dŵr. Hefyd, bydd y Prosiect Llygredd Gwasgaredig yn diogelu a gwella ansawdd d?r ymdrochi yn Nyfroedd Ymdrochi Dynodedig y Gymuned Ewropeaidd. Bydd Y Strategaeth Mwynau Metel yn blaenoriaethu cyfleoedd i adfer goferion mwynau metel.

