Amgylchedd
morol arbennig
............................................
Mae Bae Ceredigion yn gartref
i amrediad hynod gyfoethog o anifeiliaid a phlanhigion morol,
y dolffin trwynbwl prin a chwareus yw un ohonynt. Ynghyd â'r cynefinoedd
gwerthfawr y dibynnant arno, mae hyn yn gwneud y Bae yn amgylchedd
morol arbennig a rhyngwladol bwysig
Mewn cydnabyddiaeth o'i bwysigrwydd, dewiswyd rhannau o'r Bae fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig - dynodiad Ewropeaidd a fydd yn sicrhau fod yr ardal a'r bywyd gwyllt yn cael ei ddiogelu er budd a mwynhad cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â
bywyd gwyllt a chynefinoedd Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion,
sut y rheolir y safle, a sut y medrwch chwarae rhan arbennig yn
ein cynorthwyo i'w ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
Tarddiad
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Rhoddodd
Uwchgynhadledd y Ddaear Rio 1992 bioamrywiaeth yn gadarn ar yr
agenda wleidyddol y byd. Yn agosach i gartref, lluniodd y Cymunedau
Ewropeaidd y Cyfarwyddyd Cynefinoedd Cyfarwyddyd
Cynefinoedd (Cyfarwyddyd Cyngor 92/43/GE ar ddiogelu cynefinoedd
naturiol a ffawna a fflora gwyllt). Prif fwriad y Cyfarwyddyd
Cynefinoedd yw helpu i ddiogelu'r amrediad o gynefinoedd a rhywogaethau
ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ceisio gwneud hyn drwy ddynodi
Ardaloedd
Cadwraeth Arbennig.
Cyllidwyd a chefnogwyd gan Ystâd y Goron