Ble ydw i? > Hafan > Newyddion Ardal Gadwraeth Arbennig Ddiweddaraf> Click here to go to English website
News  

Cod Ymddygiad yn cael ei Ailwampio
Mae'r her o ddylanwadu ar ymddygiad cychod ar y môr yn parhau...



@Steve Delmonte


@ Janet Baxter






 

Yn ystod y llynedd, teimlom ei bod yn amser cymryd golwg newydd ar sut yr ydym yn cyfleu negeseuon pwysig y Cod i sgiperiaid a defnyddwyr cychod.

Gellir gweld y canlyniadau ar ein taflen newydd: "Cod Ymddygiad Defnyddwyr Cychod Hamdden Ceredigion".

Ewch â thaflen o Ganolfannau Croeso Arfordir Ceredigion neu lawrlwythwch gopi o isod. Synnwyr cyffredin yw'r Cod a luniwyd er mwyn bod cychod yn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar ddolffiniaid a llamhidyddion.


@Steve Delmonte

 



@ Janet Baxter

 

Y brif neges yw:

* Byddwch yn ofalus pan fyddwch allan yn y Bae a chofiwch fod dolffiniaid trwynbwl a llamhidyddion yn rhannu'r dyfroedd arfordirol gyda chi.

* Gwyliwch am y rhywogaethau hyn sydd yn cael eu diogelu a byddwch yn wyliadwrus o gyflymder.

* Po gyflymaf y teithiwch, y lleiaf tebygol fyddwch i'w gweld.

* Os gwelwch hwy, arafwch yn raddol a naill ai arhoswch, neu parhewch ar gyflymder cyson

* Peidiwch mynd atynt, gadewch iddynt hwy ddod atoch chi.

 

Cofiwch, os byddwch yn dilyn yr ychydig ganllawiau syml hyn, dengys ein hymchwil dros y 12 mlynedd ddiwethaf fod yr anifeiliaid yn aros o gwmpas yn hwy ac yn mynd at y cychod sydd yn ymddwyn yn y modd hwn.

 

 


@ Steve Delmonte



 

Mae Adain yr Arfordir & Chefn Gwlad wedi darparu gwybodaeth yngly^n â Chod Ymddygiad Defnyddwyr Cychod Hamdden Ceredigion i sgiperiaid dros y blynyddoedd ar ffurf Canllawiau i Defnyddwyr Cychod ac arwyddion ar safleoedd lansio.

Bob haf ers 1994, bu pobl leol yn cynorthwyo gyda phrosiect monitro'r Adain, sef "Gwylio'r Dolffiniaid" ac yr ydym wedi darganfod bod angen rhagor o wybodaeth yngl?n â dolffiniaid a thrafnidiaeth chychod lleol a bod angen cydymffurfio mwy gyda'r cod ymddygiad.

Nod gwaith yr Adain fu dangos sut y gall dolffiniaid trwyn potel a chychod fodoli gyda'i gilydd od ceir rheolaeth briodol o'r sefyllfa.

 


@ Steve Delmonte

Pam na wnewch ymweld â Man Cychod Bae Ceredigion?

Mae'r cyfleuster newydd hwn, a leolir ar y Pier yng Ngheinewydd wedi ei gynllunio yn benodol er mwyn eich cynorthwyo i ddarganfod mwy am fywyd gwyllt Ceredigion, lle i'w weld a sut i ddelio ag ef pan ddewch ar ei draws ar y môr.

Cliciwch yma er mwyn gwybod rhagor.

 

 

 

 

Yn ôl i'r dudalen newyddion diweddaraf.