Where am I? > Home > Latest SAC News > (click to change to welsh website)
Digwyddiadau  

Lle Cychod ar y rhestr fer am Wobr Forol

 

Mae Cyngor Sir Ceredigion ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes Morol 2006 Ystadau'r Goron am eu canolfan wybodaeth newydd, Lle Cychod Bae Aberteifi.

Mae'r wobr genedlaethol fawreddog wedi ei chreu er mwyn cydnabod busnesau a phrosiectau sy'n dangos perfformiad ardderchog, arloesi, hyrwyddo'r amgylchedd a chynaladwyedd.

Mae'r Lle Cychod ar yr harbwr yng Ngheinewydd wedi ei greu ar gyfer capteiniaid cychod sydd am wneud y mwyaf o'u profiad ar y môr, ac mae'n orlawn o arddangosfeydd arloesol sydd wedi eu cynllunio i roi'r cyfle gorau i bobl weld a threulio amser gyda bywyd gwyllt morol Bae Ceredigion.

Mae camera yn anfon lluniau byw o adar y môr sy'n magu a morloi llwyd allan ar Graig yr Adar; mae heidroffôn yn recordio synau o dan d?r y môr ac mae fersiwn cyfrifiadurol o God Ymddygiad Ceredigion yn profi gwybodaeth pobl o beth i wneud os ydynt yn cwrdd â morloi ar y môr.

Cliciwch yma er mwyn gwybod mwy am y cyswllt camera.
Cliciwch yma er mwyn chwarae'r gêm Cod Ymddygiad.

 


Dr Carolyn Heeps o
Ystâd y Goron yn agor y Man Cychod yn
swyddogol ar y 10fed o Fai 2006..

 


 

Mae Uned Arfordir a Chefngwlad y Cyngor wedi bod yn cyfleu'r neges am flynyddoedd fod Bae Ceredigion yn le arbennig ar gyfer bywyd gwyllt morol, ac mae wedi annog pobl i gymryd rhan yn ei amddiffyn, yn enwedig nawr ei fod yn Ardal Gadwraeth Arbennig ddynodedig.

Dywedodd Liz Allan, Swyddog Rheoli Cadwraeth: 'Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer, gan ein bod yn credu y bydd y Lle Cychod yn wirioneddol yn ein helpu i gyfleu'r neges sut y gellir mwynhau bywyd gwyllt heb amharu arno.

Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld diddordeb cynyddol gan y cyhoedd ym mywyd gwyllt morol y Bae, yn enwedig poblogaeth y dolffin trwynbwl. Mae dolffiniaid yn rhywogaeth sydd yn cael eu hamddiffyn ac rydym yn gwybod bod cychod, os nad ydynt yn cael eu trin yn briodol, yn gallu amharu arnynt naill ai oherwydd sW^n y modur o dan y d?r, neu drwy fynd yn rhy agos i'r anifeiliaid.

 


Ceredigion Recreational
Boating Code of Conduct


Liz Allan, Conservation Management officer at Ceredigion County Council

 

Roedd Ceredigion yn un o'r Cynghorau cyntaf yn y DU i gyflwyno Cod Ymddygiad Morol ac rydym wedi bod yn monitro'r cydymffurfio ers 1994 drwy Wylio'r Dolffiniaid poblogaidd blynyddol. Mae canlyniadau diweddar yn galonogol iawn gan eu bod yn dangos bod canran uchel o'r achlysuron pan fydd rhywun yn dod ar draws dolffiniaid yn digwydd yn unol â'r cod ymddygiad. Wedi dweud hynny mae'n amlwg o'r data, mai'r cychod sy'n troseddu'n fwyaf aml oedd y rheiny sydd fel arfer yn teithio ar gyflymder uchel. Felly mae yna ddigon o waith i'w wneud o hyd ac rydym yn ddiolchgar iawn i Ystadau'r Goron am eu cymorth.

Efallai yr hoffai pobl wybod fod Gwylio'r Dolffiniaid eleni'n dechrau ar y 7fed o Fehefin a bydd yna gyfarfod a sesiwn hyfforddiant yng Nghlwb Cychod Ceinewydd ar Mai 14 am 7:30pm ar gyfer unrhyw un sydd am ymuno â ni. Bydd Hanna Nuutilla o Sefydliad Gwylio'r Môr hefyd yn rhoi cyflwyniad darluniadol yn clustnodi anifeiliaid morfilod Bae Ceredigion a'u hymddygiad.'

Mae Lle Cychod Bae Aberteifi ar agor o Ddydd Gwener - Dydd Llun, 12 - 6pm hyd ddiwedd Mis Medi. Disgwylir canlyniadau'r gwobrau nes ymlaen yn y flwyddyn.

Cliciwch yma er mwyn lawrlwytho:

 

 

 

 

 

@ Janet Baxter

 




 

 

WIRFODDOLWYR!

Yr ydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu i redeg y Man Cychod y tymor hwn, felly os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni.

(Ffoniwch 01545 561074
annalisab@ceredigion.gov.uk)


 

 

Mae'r man cychod hefyd ar wefan BBC Cymru. Cliciwch isod er mwyn cael golwg:
Y man cychod ar wefan y BBC


 

Mae Man Cychod Bae Ceredigion yn Gynllun Cyngor Sir Ceredigion

 

Ein diolch i:

Ystâd y Goron
- Am roi grant i ni o'r gronfa Stiwardiaeth Forol
- Am agor y Man Cychod Aberteifi yn swyddogol at Fai 10fed 2006.

 

Mr D.C.Davies ac aelodau Cymdeithas Amddiffyn Arfordir Ceredigion
- am gyfrannu £2000 tuag at Fan Cychod Bae Ceredigion
- Am ein hanrhydeddu gyda'i bresenoldeb ar agoriad y Man Cychod

 


Cynghorydd Hag Harries
- Am ei eiriau cefnogol yn agoriad swyddogol Man Cychod Aberteifi

 

 

 


Mr Davies o Gymdeithas Amffiffyn Arfordir Ceredigion a'i wraig yn agor y Man Cychod.


Cyng. Hag Harries (canol) ac Ian Dutch (de) a Liz Allan (chwith) o Adain Arfordir a Chefn Gwlad


Dymunwn ymhellach i ddiolch i'r holl bobl gyda'u sgiliau a'u harbenigedd a wnaeth creu'r Man Cychod yn bosibl. Diolch yn arbennig i Janet Baxter (lluniau), Pod Claire (mosaigau), Sian Crandon o ACT (cynllunio paneli), Steve Delmonte o 'Humerous illustrations' (cart?nau Cod Ymddygiad), Steve Gates (gwaith coed ar y bocs teimlo a phaneli bygwth), Duncan Gough o 'Hoopoe Design' (gwaith coed a gêm arddangos Cod Ymddygiad), Rohan Holt (lluniau), Simon Keith (gwaith coed), Tom Mc Owatt (cynllunio taflenni), Roger Rappley ac Edward Land (gosod camera a TG), Hilary Wilson o 'Spiny Software' (meddalwedd gêm Cod Ymddygiad), Neil Winter o 'Gamerâu De Cymru (gosod camera)

     

 
Yn ôl i'r dudalen newydion ddiweddaraf.