Ble ydw i? > Hafan > Newyddion Ardal Gadwraeth Arbennig Ddiweddaraf> Click here to go to English website
Newydd:  

Cadw llygad ar Graig yr Adar
Edrychwch ar ffilm o dymor 2006

   

 

Cliciwch isod er mwyn gweld ffilm o forlo bach yn gorffwys ar graig ger Craig yr Adar:
(dyddiedig 02/10/06)

Dilyniant un (11.58 am):
Y sawl sydd wrth y camera (yr ymwelydd cyntaf â Man Cychod Bae Ceredigion o bosibl) yn gweld y morlo ar graig ac yn cael gwell golwg arno.

Dilyniant dau (12:59):
Mae'r llanw yn codi, mae'r morlo bach yn symud yn uwch i fyny'r graig er mwyn cadw'n sych.

Dilyniant tri (16:00):
Mae'r llanw yn codi, mae'r morlo wedi symud i ymyl y graig er mwyn cadw'n sych.

Dilyniant pedwar (17:34):
Mae'r morlo yn gwneud yn sw^?r nad yw'r dw^r yn codi yn uwch. Roedd y llanw uchel o gwmpas 16:32 felly dylai'r morlo bach fedru parhau yn sych.

Dilyniant pump (19:18):
Mae saith awr wedi mynd heibio ers i'r morlo bach symud i'r graig. Mae Man Cychod Bae Ceredigion wedi cau ers meitin ond mae'r morlo dal i fod yn gorffwyso ar y graig.

 

 


@ Janet Baxter

 

 

Ffeithiau diddorol yngly^n â morloi:
A oeddech chi'n gwybod nad yw morloi yn gorffwyso yn iawn tan eu bod yn hollol sych? Mae llanw isel felly yn amser pwysig i forloi orffwyso gan fod mwy o ddewis creigiau iddynt. Ond mae'n fater mwy cymhleth na dewis man gorffwys, yn enwedig ar gyfer y gwryw yn ystod y tymor paru. Mae hyn oherwydd bod y gwrywod yn ymladd am y mannau gorau. Bydd y gwrywod cryfaf yn cael y mannau uchaf sydd yn sych am yr amser hwyaf!

 

Yr ydym yn edrych ymlaen at weld llawer o weithgarwch ymhlith adar ar y siliau yn ystod y tymor bridio sydd i ddod (Mawrth i Fehefin 2007) felly cadwch lygad ar y ffilm newydd ar y dudalen hon

Er mwyn gwybod rhagor am y camera cliciwch yna.

Er mwyn gwybod rhagor am y Man Cychod cliciwch yna.

 

 

 


@ Janet Baxter

Yn ôl i'r dudalen newyddion ddiweddaraf.