|
Canlyniadau
"Gwylio'r Dolffiniaid" yn "galonogol".
 |
|
Dangosodd dadansoddiad
data o'r cynllun monitro lleol, Gwylio'r
Dolffiniaid fod mwy o gychod nag erioed
yn dilyn Cod Ymddygiad Defnyddwyr Cychod
Hamdden Ceredigion.
Roedd Cyngor Sir
Ceredigion yn un o'r Awdurdodau Lleol arfordirol
cyntaf yn y DU i gyflwyno cod gwirfoddol
yn 1993 fel rhan o'i waith gydag Arfordir
Treftadaeth Forol. |
|
| |
Ers yr amser hwnnw,
bu gwirfoddolwyr lleol yn cofnodi defnydd
dolffiniaid ac ymddygiad cychod mewn 6 safle
ar hyd yr arfordir, fel rhan o arolwg Adain
Arfordir & Chefn Gwlad Cymru. Yn ystod y
ddau haf diwethaf, cynhaliwyd 1038 o gyfnodau
gwylio, cofnodwyd 2028 awr o arsylwi a chymrodd
cant a naw o wylwyr ran yn yr arolwg.
Dengys canlyniadau
yn 2004 a 2006, bod cyfran uchel o gyfarfyddiadau
gyda chychod wedi digwydd yn unol â'r cod
ymddygiad: yn Harbwr Ceinewydd er enghraifft,
cofnodwyd bod 94% o 394 o gychod wedi dilyn
y cod yn ystod cyfarfyddiadau gyda dolffiniaid
trwyn potel. |
|
 |
 |
|
Diffiniwyd cyfarfyddiadau
fel achlysur pan ddaeth dolffiniaid a chychod
o fewn 300m i'w gilydd. Roedd canlyniadau
o Graig yr Adar, ger Ceinewydd yr un mor
uchel. Fodd bynnag, nid oedd yn newyddion
da i gyd gan er bod llai o gyfarfyddiadau
yn Ynys Lochtyn, Mwnt ac Aberporth, roedd
oddeutu 20% o'r rhain heb ddilyn y cod.
|
|
| |
Dywedodd Liz Allan,
Swyddog Rheoli Cadwraeth ar gyfer y Cyngor,
"Mae'n amlwg oddi wrth y data mai'r cychod
a oedd yn tramgwyddo amlaf oedd y cychod
a oedd yn teithio ar gyflymder uchel: cychod
cyflym(41% heb gydymffurfio), cychod cyflym
gyda sgiwyr d?r (57%) a beiciau d?r.
|
|
 |
 |
|
Mewn gwrthgyferbyniad,
cofnodwyd gennym fod 98% o operaduron teithiau
cychod yn cydymffurfio gyda'r cod yn ystod
198 cyfarfyddiad. Mae sgiperiaid y cychod
taith i'w canmol am eu parch parhaus i'r
cod, ac am ddarparu'r cyfryw enghraifft
dda i weddill defnyddwyr cychod y Bae.
|
|
| |
Yn awr bod cymaint
o'r Bae yn Ardal Gadwraeth Arbennig, mae
cydymffurfio â'r cod hyd yn oed yn fwy pwysig
os ydym i sicrhau bod defnyddwyr cychod
a dolffiniaid yn medru bodoli yn hapus gyda'i
gilydd ar hyd y rhan bwysig hon o'r arfordir.”
|
|
|
|
|
Mae'r Cyngor hefyd
wedi agor "Man Cychod Bae Ceredigion" ar
harbwr Ceinewydd er mwyn i sgiperiaid a
defnyddwyr cychod ddarganfod mwy yngl?n
â bywyd gwyllt ym Mae Ceredigion, y Cod
Ymddygiad a sut i wneud y gorau o'u profiad
ar y môr. Hefyd arddangosir
gwybodaeth yngl?n â monitro Gwylio'r Dolffiniaid
a chanlyniadau data.
Cliciwch
yma er mwyn cael rhagor o wybodaeth yngl?n
â'r Man Cychod. |
|
Yn
ôl i'r dudalen newydion ddiweddaraf.
|
|
|
|
|
|