Ble ydw i? > Hafan > Sut allwch chi helpu?
Sut allwch chi helpu?

Mae Bae Ceredigion yn llawn amrywiaeth cyfoethog o anifeiliaid a phlanhigion morol. Ynghyd â’r cynefinoedd gwerthfawr y maent yn dibynnu arnynt, mae hyn yn golygu bod y Bae yn amgylchedd morol neilltuol ac o bwysigrwydd rhyngwladol – amgylchedd y gallwch chi helpu i’w ddiogelu! Beth am fwrw golwg manylach ar y materion a amlygir isod ac edrych i weld yr hyn y gallwch chi ei wneud i’n helpu i ddiogelu dolffiniaid a bywyd gwyllt arall y Bae.

 

  • Ysbwriel, ysbwriel, ysbwriel. Mae'n gas gan bob un ohonom ysbwriel, felly beth am fynd i'r afael ag ef!

  • Yr hinsawdd yn newid - cliciwch yma i ddysgu am gamau syml a fydd yn arbed arian ac yn lleihau'ch cyfraniad i'r "bygythiad mwyaf i'n hamgylchedd heddiw".

  • A ydych yn defnyddio cwch? Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cyfleusterau i gychod yn yr ardal a'r ffyrdd y gallwch chi leihau eich effeithiau ar yr amgylchedd gymaint ag y bo modd.

 Diolch yn fawr iawn i chi am eich pryder.


 
© Janet Baxter

Dweud eich dweud!

Mae’ch safbwyntiau yn bwysig.

O’r cyfnodau cynllunio cychwynnol i’r presennol, mae’r awdurdodau perthnasol (Y rhai sy’n Gysylltiedig) sy’n gyfrifol am reoli’r cSAC wedi cydnabod pwysigrwydd cyfranogiad a chefnogaeth y cyhoedd. Croesewir safbwyntiau pawb felly mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw sylwadau neu gwestiynau.

Fel pwynt cyswllt cyntaf, cysylltwch â Jamie Davies, Swyddog SAC ar:

E bost: annalisab@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 572139
Llythyr: DESH, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.

 

Ymunwch â’r Gr p Cyswllt

Y Gr p Cyswllt yw fforwm cyhoeddus SAC, ac mae croeso i bawb ei fynychu. Cynlluniwyd y cyfarfodydd i gynnwys cyflwyniadau diddorol am agweddau amrywiol ar y cSAC ynghyd â thrafodaeth fanylach am y datblygiadau ynghylch rheoli’r safle. Mae’n gyfle gwerthfawr i godi unrhyw faterion yn ymwneud â’r SAC gyda chynrychiolwyr awdurdodau perthnasol y Llywodraeth sy’n gyfrifol am reoli’r safle.

Am ragor o wybodaeth am gyfarfod nesaf y Gr p Cyswllt, trowch at dudalen y Newyddion Diweddaraf neu cysylltwch â Annalisa trwy gyfrwng y manylion cyswllt a restrwyd uchod.

 

 

Cychod Adloniadol

Defnyddwyr cychod – gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn!

Rydym yn ymwybodol iawn bod pobl wedi bod yn defnyddio cychod ym Mae Ceredigion ers cannoedd o flynyddoedd ac nad yw’r dolffiniaid na’r bywyd gwyllt arall wedi cael eu gyrru oddi yno. Felly pam y gofynnwyd i ddefnyddwyr cychod ddilyn cod ymddygiad yn ddiweddar? Mae’r prif reswm yn ymwneud â nifer cynyddol y cychod cyflym, hydrin iawn sydd bellach yn defnyddio’r ardal, sy’n gallu amharu ar fywyd gwyllt lleol a hyd yn oed achosi niwed os cânt eu gyrru mewn ffordd anghyfrifol.

Mae’r cod ymddygiad yn nodi canllawiau defnyddio a fydd yn sicrhau, os cânt eu dilyn, eich diogelwch chi, defnyddwyr y cychod, gan leihau’r aflonyddwch i fywyd gwyllt gymaint ag y bo modd a sicrhau na thorrir cyfreithiau’r DU i’w ddiogelu.

Diolch i chi am eich cydweithrediad.

Marine Conservation Code of Conduct and Byelaws

Map SAC Bae Ceredigion

Cychod : A fyddech gystal â defnyddio pob cwch gyda gofal a sylw er mwyn sicrhau diogelwch y deiliaid a pharchu holl ddefnyddwyr eraill y môr.

Dolffiniaid/Llamhidyddion : Os byddwch yn gweld y mamaliaid morol hyn pan fyddwch allan ar y môr, a fyddech gystal â dilyn y cyfarwyddiadau canlynol:

  • Dylech gynnal cyflymder a llwybr rheolaidd, neu arafu’n raddol
  • Ni ddylech ymlid, symud yn eratig, troi tuag atynt neu
    geisio’u bwydo neu gyffwrdd â nhw
  • Dylech gymryd gofal arbennig i osgoi dolffiniaid sydd gyda’u rhai ifanc
  • Ni ddylech geisio nofio gyda’r mamaliaid hyn

Morloi : Ni ddylech darfu ar forloi neu eu lloi bach ar y traeth. Dylech roi llonydd iddynt oherwydd gallai unrhyw ymdrechion i ddynesu atynt achosi straen iddynt. Dylech reoli c ð n a’u cadw i ffwrdd o’r morloi.

Adar : Dylech gadw 100m i ffwrdd o’r clogwyni yn ystod y tymor magu, 1 Mawrth tan 31 Gorffennaf.

A fyddech gystal ag osgoi clystyrau o adar sy’n nythu neu’n bwydo ar y môr ac osgoi creu s n dianghenraid ger clogwyni.

Pysgota : Ni ddylech daflu offer pysgota yn y môr. Dylech fynd ag ef gartref gyda chi a’i waredu'n gywir.

Plymwyr : Dylech ddilyn Cod Ymddygiad BSAC.

Deddfau Lleol Ceredigion : Mae’r deddfau lleol hyn yn rheoleiddio mordwyo gan bleserfadau yn yr ardaloedd a ddangosir ar y map

Cyfyngiadau cyflymder : Ni ddylid mordwyo pleserfadau ar gyflymder dros 8 milltir fôr yr awr o fewn y safle cyfyngedig o gwmpas pob traeth rhwng mis Mai a diwedd mis Medi.

Sylw a Gofal Priodol : Gwaherddir gyrru pleserfadau mewn ffordd beryglus neu heb sylw a gofal priodol neu heb roi ystyriaeth resymol i eraill.

Sðn : Gwaherddir defnyddio pleserfad a yrrir gan fotor tanio mewnol heb ddistewydd addas.

Gorchmynion Harbwr Cei newydd

Cyfyngiadau cyflymder : Ni ddylid mordwyo pleserfadau ar gyflymder dros 5 milltir fôr yr awr o fewn cyfyngiadau’r harbwr (gweler y map drosodd).

Traeth yr Harbwr : Ni ddylid mordwyo pleserfadau (ac eithrio llongau ‘wedi’u trwyddedu i gael eu defnyddio fel tacsi neu wobr’) rhwng llinell ddychmygol wedi’i thynnu rhwng diwedd y gysgodfa yn Beach Road a diwedd morglawdd Penpolion.

Cyfyngiad Oedran : Ni ddylai unrhyw un dan 18 oed fod yn gyfrifol am gwch cyflym neu gwch modur.

Cosbau : Mae’r Porthfeistr wedi’i awdurdodi i dynnu caniatâd lansio ac angori yn ôl ar gyfer cychod nad ydynt yn ufuddhau i’r deddfau lleol neu’r Cod Ymddygiad Cadwraeth Môr. Gall llongau sy’n torri amodau’r deddfau lleol neu sy’n tarfu ar ddolffiniaid a llamhidyddion yn ddiofal gael eu herlyn hefyd.

Mae deddfau lleol sy’n debyg i’r rhai ar gyfer Ceredigion yn berthnasol i rannau o Afon Teifi sydd yn Sir Benfro hefyd.

Mae set cyflawn o ddeddfau lleol ar gael i’w harchwilio yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ac mewn Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid.

To view the Code of Conduct click on the following links:
Leaflet front cover here
Leaflet rear here
Just the text here

To view the Code of Conduct for Passenger Boat Operators click here


Diogelwch ar y Môr

MARINECALL: Mae Marinecall yn rhoi recordiadau o’r rhagolygon tywydd diweddaraf ar gyfer dyfroedd wrth y lan ym Môr Iwerddon 09068 500 460.

‘Sea Check’ Offer Môr RNLI : Mae ‘Sea Check’ yn cynnig archwiliad rhad ac am ddim o offer diogelwch i berchnogion pleserfadau. Ffoniwch 0800 328 0600 i drefnu apwyntiad ‘Sea Check’.

Cynllun Diogelwch Cychod a Badau Gwyliwr y Glannau: Cyn hwylio, dylech hysbysu’ch cyswllt ar y lan o’ch amser dychwelyd. Os na fyddwch wedi dychwelyd mewn pryd, gellir hysbysu Gwyliwr y Glannau. Mae Gwyliwr y Glannau Aberdaugleddyf yn gyfrifol am arfordir Ceredigion 01646 690909 Gellir cael copïau o'r llyfryn ‘Safety on the Sea’ gan Swyddfeydd Harbwr Ceredigion.

Cyrsiau Hyfforddiant RYA : Cysylltwch ag RYA am restr o Ysgolion Môr sy’n agos i chi
01703 627400.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog cSAC ar 01545 572139 neu anfonwch e-bost at annalisab@ceredigion.gov.uk

 

Ysbwriel

Nid oes unrhyw un yn hoffi gweld ysbwriel ar ein traethau. Nid yn unig y mae’n anneniadol, ond mae’n cael effaith ar iechyd ac economi cymunedau lleol, yn ogystal â’r ffaith y gallai achosi niwed i’n bywyd gwyllt morol o bwysigrwydd rhyngwladol.

Yn anffodus, ceir tuedd eglur bod yr ysbwriel ar ein harfordir yn gwaethygu. Mae Marine Conservation Society wedi cofnodi cynnydd o 99% yn yr ysbwriel a welir ar draethau a archwiliwyd rhwng 1994 a 2003, ac mae Cymru yn cynnwys yr ail lefel uchaf o ran ysbwriel yn y DU, y mae llawer ohono o ganlyniad i bobl yn ei adael ar y traeth.

Trwy gymryd dau gam syml, gallwch ein helpu ni i gadw’r amgylchedd lleol yn lân ac yn ddiogel er ein lles ni ac er lles bywyd gwyllt lleol.

  • Dylech waredu ysbwriel yn ofalus – defnyddiwch y biniau a ddarparwyd neu ewch â’ch ysbwriel gartref gyda chi. Sicrhewch eich bod yn ailgylchu popeth y gallwch ei ailgylchu.
  • Dylech ‘fabwysiadu’ eich hoff draeth neu ddarn o arfordir a helpu i’w gynnal ar gyfer y dyfodol.



Mabwysiadu traeth – beth mae hyn yn ei olygu?

A hoffech ymgymryd â rôl mwy wrth gynnal a chadw ansawdd eich arfordir lleol?

Mae Cadwch Gymru'n Daclus (Keep Wales Tidy) yn rhoi cymorth i aelodau’r gymuned sy’n dymuno cyfrannu mewn gweithgareddau cadwraeth diogel a phleserus.

Trwy gyfrwng ei gynllun Gofal Arfordir (Coastcare), bydd grwpiau o wirfoddolwyr yn canolbwyntio ar ofal parhaus yr ardal a ddewiswyd ganddynt gan gynnal digwyddiadau sy’n amrywio o weithgarwch casglu ysbwriel i weithgareddau addysg amgylcheddol – chi sy’n penderfynu ar yr hyn i’w wneud!

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i sefydlu neu ymuno â’ch gr ð p Coastcare agosaf, cysylltwch â Keep Wales Tidy ar 01646 681949

 

Yr hinsawdd yn newid

Lle bynnag yr ydych yn byw yn y byd, gallwch gyfrannu at gynnal bywyd gwyllt morol anhygoel Bae Ceredigion.

Caiff yr hinsawdd yn newid ei ddisgrifio fel “Y bygythiad mwyaf i’n hamgylchedd heddiw” a cheir tystiolaeth gynyddol y bydd yn effeithio ar fywydau pob un ohonom yn y dyfodol. Ond nid ni yn unig fydd yn cael ein heffeithio. Mae newidiadau annaturiol o gyflym yn nhymheredd yr aer a d r y môr o ganlyniad i effaith y ty gwydr yn debygol o arwain at newidiadau yn nosbarthiad a helaethrwydd bywyd gwyllt morol yn holl foroedd y byd.

Trwy gymryd camau syml, byddwch yn arbed arian ar eich bil trydan ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gynnal iechyd ein hamgylchedd morol er budd a mwynhad cenedlaethau’r dyfodol. Felly a fyddech gystal â chymryd y camau canlynol:

  • Dylech ddiffodd goleuadau, setiau teledu a radio pan na fydd eu hangen – ni ddylech adael offer trydanol ymlaen yn barod i’w defnyddio.
  • Ni ddylech orlenwi’r tegell – dylech ferwi’r d r y mae ei angen arnoch yn unig
  • Gadwch i ddillad sychu’n naturiol yn hytrach na defnyddio peiriant sychu dillad
  • Dylech ystyried prynu bylbiau golau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon

Am fwy o gyngor ynghylch ffyrdd o leihau’ch effaith ar yr amgylchedd, trowch at
wefan Defra