Where am I? > Home > Y diweddaraf am yr SAC > (click to change to English website)
Newyddion 2005  

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru

   

Hundreds of people in Ceredigion had a closer look at nature as they visited some of the area’s more stunning places and took part in the many hands-on events during Wales Biodiversity Week.

Click here to see more pictures
and read about the event
!

(this section is in the process of being translated into Welsh).


Rhywbeth na welir yn aml yn harbwr Aberaeron

Ar fore dydd Mercher y 4ydd o F ai darganfyddwyd dau lamprai'r môr prin yn harbwr Aberaeron. Mae hyn yn arwydd da gan ei fod yn dangos bod y rywogaeth yma sydd byth braidd yn cael ei weld ac sydd yn rywogaeth wedi ei amddiffyn dal i ffynnu yn yr ardal....

Cliciwch yma i barhau.


2005 - A wyddoch chi?

Mae cynyddu ymwybyddiaeth yn bwysig iawn o ran meithrin cefnogaeth dros warchod amgylchedd y môr ym Mae Ceredigion. Gwnawn ein gorau i sicrhau fod yr wybodaeth am y safle'n hawdd ei chyrchu ar safleoedd ar yr arfordir, yn y canolfannau croeso ac mewn adeiladau cyhoeddus. Hefyd yr Haf yma agorir "Lle Cychod Bae Ceredigion", ystafell arddangos newydd sbon a gynlluniwyd yn arbennig i roi gwybodaeth i fordwywyr yr Ardal Gadwraeth Arbennig yngly^n â lle y gallwch chi weld bywyd gwyllt a'r ffordd orau o ymwneud ag ef. Oherwydd yr arddangosiadau rhyngweithiol a dyfeisgar dylai pawb yn yr ardal ddod i'w gweld.

Rhagfyr 2004 - Mae'n swyddogol:

 

Mae Bae Ceredigion yn un o 8 o ardaloedd morol* yng Nghymru sydd wedi eu dynodi'n ffurfiol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC) dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop. Felly nid yw'n ddarpar safle mwyach (cSAC).

Mae'r Gyfarwyddeb yn anelu at warchod a chynnal cynefinoedd a rhywogaethau sydd o bwys Ewropeaidd a chenedlaethol trwy sefydlu rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig (SAC), a adwaenir fel "Rhwydwaith Natura 2000". Ar draws y Deyrnas Unedig cynigiwyd tua 608 o ddarpar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn rhan o'r rhwydwaith hwn, ac o blith y rhain roedd 90 yng Nghymru.

Ar 7 Rhagfyr 2004, bu i’r Comisiwn Ewropeaidd fabwysiadu rhestr y Deyrnas Unedig o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Yna bu i Carwyn Jones, y Gweinidog Amgylchedd yn Llywodraeth y Cynulliad ddynodi’r 90 safle Cymreig yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ffurfiol ar 13 Rhagfyr 2004.

O blith y 608 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn y Deyrnas Unedig, mae 37 ohonynt yn rhai morol ac mae 8 ohonynt yng Nghymru. Y rhain yw Afon Menai a Bae Conwy, Bae Cemlyn, Arfordir Môn (Morfa Heli), Penrhyn Lly^n a'r Sarnau, Bae Ceredigion, Sir Benfro a'r Môr, Arfordir Calchfaen De Orllewin Cymru a Bae Caerfyrddin a'r Aberoedd (Nid yw aberoedd Afon Hafren ac Afon Dyfrdwy wedi eu dynodi eto). Cewch wybodaeth fanwl am bob Ardal Gadwraeth Arbennig ar wefannau'r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol y Deyrnas Unedig. Cyd-Bwyllgor Cadwraeth Natur ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol y Deyrnas Unedig.

Y cam ffurfiol nesaf fydd nodi'r ardaloedd Cymreig ar "Gofrestr Safleoedd Ewropeaidd" Llywodraeth y Cynulliad. Unwaith y bydd hyn wedi ei wneud bydd copi o'r Gofrestr ar gael ar gyfer ymgynghori cyhoeddus yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru.

* Yn y cyswllt hwn mae Ardal Gadwraeth Arbennig forol yn golygu safle sydd iddo fwy nag un nodwedd forol a ystyrir ei bod o ddiddordeb cenedlaethol (graddfa C yn system ddosbarthu DGXI (1995) y Comisiwn Ewropeaidd).


4ydd o Fawrth 2005: Penodi Swyddog Newydd ar gyfer yr Ardal Gadwraeth Arbennig

Hwyl fawr Jamie a chroeso Annalisa! Ar ôl dwy flynedd o waith da fel Swyddog Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, mae Jamie Davies wedi mynd i weithio ar brosiect yn y Philippines gyda'r VSO. Hoffem ddiolch iddo am ei waith caled a chroesawu Annalisa Bianchessi yn ei le.

Mae gan y Swyddog newydd sy'n gweithio yn Swyddfa Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa, Aberaeron, dair o brif dasgau:

  1. Hybu gwell cydlynu a chydweithio rhwng y grwpiau cyfrannog er mwyn sicrhau bod y cynllun rheoli'n cyflawni ei nodau.
  2. Gweithredu fel 'person cyswllt' ar gyfer yr Ardal Gadwraeth Arbennig. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr Ardal Gadwraeth Arbennig, Annalisa yw'r un i gysylltu â hi. Gall hi fynd ar drywydd unrhyw ymholiadau a rhoi atebion i chi.
  3. Codi proffil yr Ardal Gadwraeth Arbennig trwy gefnogi gweithgareddau addysgol a gweithgareddau maes ynghyd ag arwain ar brosiectau newydd.

Cysylltwch ag Annalisa Bianchessi, Swyddog Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, yngly^n ag unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r Ardal Gadwraeth Arbennig (Ffôn 01545 572139, e-bost: annalisab@ceredigion.gov.uk)


2005 - Adolygu'r cynllun rheoli

Ers ychwanegu 6 o nodweddion newydd at Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn 2001 (gweler y broses ddiwygio ) bu adolygiad o'r cynllun rheoli ar waith i sicrhau bod y cynllun yn gwarchod y rhywogaethau a'r cynefinoedd hyn yn ddigonol. a review of the management plan is being undertaken to make sure the plan provides adequate protection for these additional species and habitats.

Fel ymgynghorydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gadwraeth natur, mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru bellach yn ystyried manylion yr amcanion cadwraeth o ran nodweddion newydd Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion.

Yna fe gaiff yr amcanion, ynghyd â rhestr o'r gweithgareddau a allai amharu ar nodweddion yr Ardal Gadwraeth Arbennig, eu hamlinellu mewn dogfen a elwir yn "Rheoliad 33". Bydd y ddogfen hon yn fodd i Awdurdodau Perthnasol Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion gwblhau'r adolygiad ar Gynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion.

Yn anffodus bu oedi cyn cyhoeddi Rheoliad 33, a oedd i fod i gael ei gyhoeddi yn 2004 ac a ddisgwylir bellach yng Ngwanwyn/Haf 2005. Golyga hyn fod yr adolygiad ar y cynllun rheoli wedi dod i stop am y tro. Mae Grw^p yr Awdurdodau Perthnasol wedi trefnu cyfarfod ym mis Mai i unioni hyn ac i geisio cyflymu’r broses adolygu.

Anfonir adolygiad drafft y cynllun rheoli allan er ymgynghori ac fe gynhelir cyfarfod o'r Grw^p Cyswllt (ddiwedd Hydref 2005) er mwyn rhoi cyfle i'r gymuned leol a rhan-ddeiliaid gael trafod a chyfrannu at y cynllun rheoli diwygiedig cyn iddo gael ei orffen yn derfynol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr Ardal Gadwraeth Arbennig a’r cynllun rheoli cysylltwch â Swyddog Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, Annalisa Bianchessi (Ffôn 01545 572139, e-bost: annalisab@ceredigion.gov.uk)

Yn ôl i'r hafan.

 
eXTReMe Tracker