Rhywbeth na welir yn aml
yn harbwr Aberaeron
Rhywogaeth hynafol allan i silio
unwaith eto
Ar
fore dydd Mercher y 4ydd o F ai darganfyddwyd dau
lamprai'r môr prin yn harbwr Aberaeron. Mae hyn
yn arwydd da gan ei fod yn dangos bod y rywogaeth
yma sydd byth braidd yn cael ei weld ac sydd yn
rywogaeth wedi ei amddiffyn dal i ffynnu yn yr ardal.
|
Darganfyddwyd yn cyntaf yn farw gan yr harbwrfeistr
Nigel Wells. Gwelodd Nigel Petts, swyddog Coed
Cymru y llall, yn nofio yn un o'r pyllau sydd
yn ffurfio yn yr harbwr pan mae'r llanw'n isel.
Mae'r amser o'r flwyddyn a lleoliad y lamprai'r
môr yn awgrymu eu bod yn teithio i fynu'r Afon
Aeron er mwyn cael rhoi eu wyau yn bellach i
fyny'r llif. Roedd gan un o'r lamprai liw eurfrown
bron a bod yn oren gyda spotiau du ar eu cefn
sydd yn nodweddiadol o oedolion adeg silio.
|
Lamprai'r môr yn nofio yn harbwr Aberaeron
(Ffotograff gan A. Bianchessi
/ CSC) |
Nid ydyn yn gwybod os oes dau lamprai wedi llwyddo
i blanu eu wyau. Nid yw' ffaith bod y llall wedi
marw yn achos i ddychryn, gan eu fod y lamprai yn
adnabyddus am farw ar ôl iddynt ddodwy eu wyau.
Mae
lamprai yn anifeiliaid 'anadromous', sy'n meddwl
eu bod yn debyg i 'trout', maent yn symud o'r môr
i'r afon er mwyn cael bridio mewn dwr croyw. Maent
yn rhai o'r vertebrae mwyaf primitive o'r holl vertebrates
byw, yn dyddio n'ôl rhyw 300 miliwn o flynyddoedd.
Fel siarcod does ganddynt ddim esgyrn ac mae eu
strwythyr sgerbydol wedi eu greu o mardruddyn cryf
ac hyblyg. Dim ond un ffroenen sydd ganddynt ac
does dim gên gwaelod. Yn eu lle mae ganddynt geg
sydd fel disg sugno, ac yn yr oedolion mae'n llawn
rhesi consentrig o ddannedd cryf rhasgl.

Sucker disk-shaped mouth of a lamprey showing
concentric rows of teeth and the big transverse
tooth.
|
Mae'r
ffaith bod yn raid iddynt deithio drwy cyhefinau
gwahanol er mwyn cael cwblhau eu cylch bywyd
yn meddwl bod lamprai yn agored i niwed yn enwedig
i fygythiadau wedi eu creu gan ddyn. "Yn Ynysoedd
Prydain mae lamprai'i môr yn absenol o lawer
o afonydd gogleddol ac wedi darfod mewn llawer
o rai'r de yn bennaf oherwydd llygredd a rhwystrau
peirianyddiaeth" dywedodd Swyddog 'SAC' Bae
Aberteifi Annalisa Bianchessi. Mwy…2 "Yn ffodus
mae'r lamprai nawr yn cael ei amddiffyn o fan
yr Cyfarwyddeb Cynefin Ewropeaidd drwy sefydliad
rhwydwaith o 'Special Areas of Conservation
(SACs)'. |
Mae
Bae Aberteifi 'SAC' wedi ei nodi fel un o'r prif
ardaloedd o bwysigrwydd cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth,
yn bennaf gan ei fod yn gweithredu fel daear mudo
i'r lamprai ar eu ffordd i silio yn yr Afon Teifi".
Datblygwyd Bae Aberteifi fel SAC yn wreiddiol er
mwyn amddiffyn y poblogaeth sefydlog o doffiniaid
'bottlenose' yn y bae. Ond yn ddiweddar mae 6 ychwanegiad
newydd i'r restr o nodweddion dylir anelu i'r amddiffyn.
Yn ogystal a'r lamprai'r môr ac afon mae'r rhain
yn cynnwys morloi llwyd yr Atlantig, ogofau'r môr,
creigresu ac traethellau. Mae cynllun rheoli'r 'SAC',
sydd wedi bodoli ers 2001, ar hyn o bryd yn cael
ei adnewyddu i gymryd yr amrywiaeth ychwanegol yma
i ystyriaeth. Gan mai ychydig rydym yn gwybod am
ddosbarthiad y lamprai afon o fewn ardal Bae Aberteifi,
byddai unrhyw adroddiadu gan unrhywun sy'n gweld
lamprai yn ddefnyddiol i'n helpu i ddeall eu anghenion
cadwraethol. Felly os ydych yn digwydd gweld lamprai
yn yr afon neu'n y môr, gallwch gyfrannu tuag at
eu cadwraeth drwy rhoi gwybod i'r Swyddog 'SAC'
Annalisa Bianchessi (Ffôn: 01545 572139, neu ebost:
annalisab@ceredigion.gov.uk).
Ffeithiau
difyr am y lamprai
Mae
lamprai mewn siap tebyg i llysywen, ac maent yn
perthyn i deulu'r Petromyzonidae (yn llythrennol
sugnwyr carreg) ac maent yn un o'r anifaeloiaid
mwyaf 'primitive' o'r holl 'vertebrates', yn dyddio'n
ôl rhyw 300 miliwn o flynyddoedd. Er eu bod yn cael
eu galw'n bysgod, dim pysgod gwir ydynt. Maent fel
siarcod heb dim esgyrn ac mae eu holl strwythyr
sgerbydol wedi ei greu o mardruddyn cryf ac hyblyg.
Dim ond un ffroenen sydd ganddynt ac dim gên gwaelod.
Yn eu lle mae ganddynt geg sydd fel disg sugno,
ac yn yr oedolion mae'n llawn rhesi consentrig o
ddannedd cryf rhasgl.
Lamprai'r
môr (Petromyzon marinus) yw'r mwyaf o'r lamprai
Prydeinig ac mae'n gallu cyrraedd hyd o 100 cm (3,2
troedfedd) ac yn gallu pwyso hyd at 2,5 kg (5,5
Pwys). Fel arfer mae'n silio diwedd Mai hyd Mehefin
ac mae un benyw yn gallu dodwy hyd at 172 000 o
wyau a fydd yn gorwedd ar arwynebau o gerrig â ddwr
sy'n llifo drosto. Mae'n gwneud hyn ar ôl gwneud
nyth drwy godi cerrig bach i ffwrdd gyda'i sugnwr
(felly eu enw fel sugnwr cerrig). Ar ôl gori, mae'r
larfa (a elwir yn ammocoetes) yn gadael y nyth ac
yn symyd lawr yr afon, gan ddosbarthu eu hunain
mewn gwelyau silt ble maent yn byw am bum mlynedd
cyn newid mewn i oedlonion a mynd n'ol i'r môr.
Mae'r
ffaith bod yn raid iddynt deithio drwy cyhefinau
gwahanol er mwyn cael cwblhau eu cylch bywyd yn
meddwl bod lamprai yn agored i niwed yn enwedig
i fygythiadau wedi eu creu gan ddyn. Gall llygredd
difrifol mewn rhannau isel y nant yn gallu lladd
poblogaethau cyfan drwy atal mudo lan yr afon ac
lladd rheini sy'n teithio i lawr, fel digwyddodd
yn Afonydd y Thames a'r Clyde. Gall hyn ddigwydd
hyd yn oed cannoedd o kilometrau i fyny'r afon gyda
dwr o safon da a digon o gynefinai da i silio ac
i'r larfa gael byw. Yn yr un ffordd mae rhwystrau
peirianyddef yn gallu atal mudo drwy lenwi'r llwybr
i'r ffordd i fyny'r afon.