Rheoli Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion
Mae'r term
Awdurdodau Cymwys
yn cynnwys unrhyw gorff statudol neu swyddfa gyhoeddus sy'n
arfer pwerau deddfwriaethol, boed hynny ar dir neu ar fôr
yn y DU.
Mae naw Awdurdod
Cymwys a elwir yn Awdurdodau
Perthnasol yn rheoli'r Ardal Gadwraeth Arbennig.
Maent oll â phwerau neu swyddogaethau sydd yn cael effaith,
neu a allai gael effaith, ar y safle. Tra na fo rhaid iddynt
greu cynllun rheoli, mae pob un o'r Awdurdodau Perthnasol
yn gyfrifol yn unigol am gydymffurfio â'r Rheoliadau Cynefinoedd
o fewn eu cylch gwaith penodol. Serch hynny, gall yr Awdurdodau
Perthnasol gyflawni nodau'r Gyfarwyddeb Gynefinoedd yn fwy
effeithiol drwy baratoi, gweithredu ac adolygu Cynllun Rheoli
ar y cyd.
I'r perwyl
hwn, mae Awdurdodau Perthnasol y safle wedi ffurfio Grŵp
Awdurdodau Perthnasol Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion.
Nid oes unrhyw bwerau ychwanegol gan y Grŵp, ond mae'n
sicrhau bod pob un o'r Awdurdodau Perthnasol yn cyfrannu at
ddatblygu a gweithredu'r Cynllun Rheoli. Mae'r dull hwn o
weithredu ar y cyd hefyd yn galluogi cyfathrebu'n effeithiol
â phobl leol ac â phartïon eraill sy'n dangos diddordeb parthed
y Cynllun yn ei gyfanrwydd. (Gweler y darlun isod i ddarganfod
strwythur y cyd-gysylltiadau).
Fframwaith
Cyswllt Ardal Arbennig Bae Ceredigion:

Mae Awdurdodau Perthnasol Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion fel a ganlyn:
- Cyngor
Sir Ceredigion
- Cyngor
Cefn Gwlad Cymru
- Asiantaeth
yr Amgylchedd Cymru
- Dŵr
Cymru
- Pwyllgor
Pysgodfeydd Môr Gogledd-Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru
- Pwyllgor
Pysgodfeydd Môr De Cymru
- Awdurdod
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Cyngor
Sir Penfro
- Gwasanaeth
Goleudy Tŷ'r Drindod
Gweithdrefnau
Cynlluniau a Phrosiectau
Un o'r offerynnau y mae'r Gyfarwyddeb Gynefinoedd wedi'u rhoi
yn eu lle i reoli'r Ardal Gadwraeth Arbennig yw'r Gweithdrefnau
Cynlluniau a Phrosiectau. Mae hynny'n berthnasol i unrhyw
weithgaredd a datblygiad sy'n gofyn am ryw fath o gysyniad,
caniatâd neu drwydded gan Awdurdod Cymwys neu Berthnasol.
Os na ellir diystyru y gallai'r datblygiad gael effaith andwyol
ar nodweddion yr Ardal Gadwraeth Arbennig, rhaid i'r Awdurdod
Cymwys neu Berthnasol wneud Asesiad Priodol a chymryd cyngor
gan yr asiantaeth gadwraeth natur statudol (sef y Cyngor Cefn
Gwlad yng Nghymru) i bennu a ellir bwrw ymlaen â'r datblygiad,
ac os felly, o dan ba amodau y gellir bwrw ymlaen.

Cliciwch yma i ddadlwytho'r Cynllun Rheoli (Pdf 7Mb)
Cliciwch
yma i lwytho cylchlythyr yr Ardal Gadwraeth Arbennig i lawr
yn ogystal â chrynodeb o'r Cynllun
Gellir
dadlwytho copi o Gynllun Rheoli gwreiddiol 2001 drwy glicio
yma |