Ble ydw i? > Hafan > Cynllun Rheoli


Ymchwil, Monitro ac
Adrodd yn Ôl

Er mwyn diwallu nodau'r Gyfarwyddeb Gynefinoedd, mae'r amcanion cadwraethol yn ceisio cynnal (neu adfer) "Statws Cadwraeth Ffafriol" y cynefin a'r rhywogaethau.


Amosetau (cyfnod larfaol y llysywen bendoll)
@Ross Gardiner, Gwasanaethau Ymchwil Pysgodfeydd

Mae'r broses sy'n mynd rhagddi o fonitro'r cynefinoedd a'r rhywogaethau yn rhan hanfodol o'r broses o asesu amod nodweddion yr Ardal Gadwraeth Arbennig. Gofyniad y Gyfarwyddeb yw bod y DU yn adrodd yn ôl wrth y Gymuned Ewropeaidd bob chwe mlynedd am statws cadwraethol y cynefinoedd a'r nodweddion a glustnodir yn y Gyfarwyddeb. Aseswyd a chyflwynwyd Statws Cadwraethol Ffafriol Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion i'r Gymuned Ewropeaidd ym mis Rhagfyr 2007. Aseswyd bod statws y dolffiniaid trwynbwl, y morloi llwydion a'r ogofeydd môr yn ffafriol. Aseswyd bod statws llysywod pendwll yr afon a'r môr yn anffafriol. Bydd angen rhaglen ymchwil a monitro i roi mwy o wybodaeth ac i wella'n dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar wasgariad a helaethrwydd y ddwy rywogaeth hon.

Sefydlwyd rhaglenni ymchwil a monitro o fewn yr Ardal Gadwraeth Arbennig i ddarparu gwybodaeth ar gyfer penderfyniadau rheoli a diweddaru'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i wella'n dealltwriaeth o amgylchfyd y môr ynghyd â'r rhywogaethau a'r cynefinoedd y mae'n gefn iddynt. Hefyd, datblygodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru system ymgynghori a chymeradwyo i ymgymryd ag ymchwil i sicrhau na fydd y gweithgareddau ymchwil a wneir yn y Bae yn bygwth nodweddion y safle. Rhan o'r camau gweithredu a glustnodir yn y Cynllun Rheoli newydd yw bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn datblygu'r rhaglen ymchwil bresennol i ymgorffori prosiectau ymchwil eraill yn ogystal â hyrwyddo ymchwil sydd a wnelo â'r Ardal Gadwraeth Arbennig ymhlith sefydliadau a grwpiau ymchwil.

 

 



Deifiwr sy'n gwneud arolwg @Rohan Holt,
Cyngor Cefn Gwlad Cymru


Seren waetgoch y môr@CCW_SMNR


Y tu fewn i ogof fôr @Rohan Holt,
Cyngor Cefn Gwlad Cymru


Offer gwneud ymchwil @Ross Gardiner,
Gwasanaethau Ymchwil Pysgodfeydd


Safle monitro o dan y dŵr @ Rohan Holt,
Cyngor Cefn Gwlad Cymru


Y berdysen mantis brin sydd i'w chanfod ym manciau
tywod Bae Ceredigion @Rohan Holt,
Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Dolffin mawr ar y lan yn y Borth yn cael ei symud
ar gyfer cynnal awtopsia gan Rod Penrose,
Monitro Amgychedd y Môr@Janet Baxter